Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd
Ydych chi wedi gwneud yn siŵr bod eich staff wedi cofrestru?
Ni all ymarferwyr addysg weithio yng Nghymru heb iddynt fod wedi cofrestru gyda ni, yn y categori cywir ar gyfer y gwaith maent yn ei wneud. Fel cyflogwr/asiantaeth, mae gyda chi gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud yn siŵr bod eich staff wedi cofrestru cyn iddynt ddechrau gweithio. Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithwyr sy'n ymweld, fel staff cyflenwi, athrawon peripatetig, a staff sy'n cael eu talu fesul awr (fel tiwtoriaid cerddoriaeth a hyfforddwyr chwaraeon).
Gallwch ddefnyddio eich mynediad ar-lein i'r Gofrestr i wirio statws cofrestru eich staff nawr.
Cynnal cyfrinachedd
Ry'n ni wedi cyhoeddi canllaw arfer da newydd ar gynnal cyfrinachedd. Mae'n cynnwys gwybodaeth i'ch helpu i sicrhau bod gwybodaeth a data cyfrinachol yn cael eu rheoli'n ddiogel, yn gyfreithlon, ac yn deg.
Darllenwch yr holl ganllawiau nawr ar ein tudalen canllawiau arfer da. Cofiwch ei rannu gyda chofrestreion yn eich lleoliad.
Blog: Myfyrio ar ein taith, ein heffaith a’n dyfodol
Ar ddiwedd ein degfed flwyddyn fel CGA, ry'n ni wedi cymryd y cyfle i fyfyrio ar sut yr ydym wedi esblygu, yr effaith yr ydym wedi cael, a sut byddwn yn parhau i wasanaethu dysgwyr a phobl ifanc, y cyhoedd, a'r gweithlu addysg dros y blynyddoedd nesaf.
Diweddariadau'r Cyngor
Ein gweledigaeth at y dyfodol
Ar 1 Ebrill, fe wnaethom gyhoeddi Cynllun Strategol 2026-29 a’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 wedi ei adnewyddu. Maen nhw'n gosod ein blaenoriaethau a'n hymrwymiadau am y blynyddoedd nesaf.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Defnyddio'r PDP i reoli perfformiad
Ry'n ni wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau addysgol i greu templedi arbennig yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), y gellir eu defnyddio fel rhan o'r broses rheoli perfformiad. Os oes gyda chi ddiddordeb, mae mwy o wybodaeth ar ddefnyddio'r PDP a sut i'w osod ar gyfer eich sefydliad mewn da bryd ar gyfer mis Medi.
Oes swydd gyda chi i'w hysbysebu?
Gallwch bostio swyddi gwag a chyfleoedd hyfforddi am ddim ar borthol swyddi Addysgwyr Cymru - y mwyaf o'i fath yng Nghymru.Mae porthol swyddi Addysgwyr Cymru yn cynnwys cannoedd o swyddi i'ch helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa - i gyd mewn un platfform am ddim, hawdd ei ddefnyddio.
Digwyddiadau'r haf
Mae nifer o gyfleoedd i chi ddod i siarad gyda'r tîm dros y misoedd nesaf. Byddwn ni yn:
- Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn, 23-29 Mai
- Y Sioe Addysg Genedlaethol, Llandudno, 12 Mehefin
- Eisteddfod y Garreg Las, 1-8 Awst
Hysbysu polisi
Ein hymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru
Ry'n ni wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i ffurfioli'r ddarpariaeth o chwe diwrnod HMS bob blwyddyn ar gyfer ysgolion yng Nghymru a'n hymateb i bapur Llywodraeth Cymru ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru.
Rhag ofn i chi ei fethu
Gadewch i ni ddod atoch chi
Yn ogystal â'r gyfres o ddigwyddiadau sydd ar ein sianel YouTube, gallwn hefyd ddod atoch chi i wneud cyflwyniad ar nifer o wahanol bynciau, o'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, i'r PDP. Gallwn hyd yn oed deilwra'r cyflwyniad i'ch anghenion chi. Llenwch y ffurflen ar y dudalen, ac fe wnawn ni gysylltu gyda chi i drefnu dyddiad ac amser.
Oes gyda chi adborth ar y dudalen yma?
This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. .
