CGA / EWC

About us banner
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28

Lawrlwytho'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28

Lawrlwytho'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol CGA 2024 28 - Cynllun ar dudalen

Cyflwyniad

Mae’r cynllun hwn, sy’n cwmpasu’r cyfnod 2024-28, yn amlinellu ymrwymiad Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn esbonio sut byddwn yn gweithio i hyrwyddo’r egwyddorion hyn o fewn ein sefydliad ac, (o fewn ein cylch gwaith) ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru. Amcan y cynllun newydd yma yw adeiladu ar gynnydd ers cyhoeddi ein cynllun blaenorol yn 2020, ac mae’n gydnaws â’r weledigaeth a’r amcanion yn ein Cynllun Strategol 2024-27.

Mae’r cynllun yma, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ymgymryd â’n rhan mewn creu Cymru decach, yn sefydlu cyfres o amcanion cydraddoldeb strategol uchelgeisiol. O fewn y cynllun gweithredu rydym yn amlinellu camau clir, gan roi manylion am sut rydym yn anelu at eu cyflawni a sut caiff ein llwyddiant ei fesur.

Mae’r cynllun hefyd yn cofleidio ein rôl bwysig mewn adolygu ac amlygu materion cydraddoldeb ehangach o fewn y gweithlu addysg, ac yn manylu ar ein bwriad i weithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddatrys y materion hyn. Mae hefyd yn adlewyrchu’r colau a nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru, lle mae Llywodraeth Cymru’n nosi eu bod am wneud Cymru’n genedl gwrth-hiliol erbyn 2030, a’r genedl mwyaf LHDTC+ gyfeillgar yn Ewrop.

Credwn fod yr amcanion a amlinellir o fewn y cynllun hwn yn uchelgeisiol ac yn adlewyrchu ein rôl a’n cylch gwaith neilltuol (sydd wedi’u diffinio’n fanwl gywir). Fodd bynnag, pan fydd cyfleoedd i wneud hynny, byddwn yn ceisio rhagori ar ein hamcanion cydraddoldeb a nodwyd, gan chwilio’n rhagweithiol am gyfleoedd i fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau er mwyn cyfrannu at greu Cymru decach a mwy cyfiawn.

Amdanom ni

CGA yw’r rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, addysg oedolion, ac ymarferwyr dysgu'n seiliedig ar waith. Fe’n sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, a daethom i fodolaeth ar 1 Ebrill 2015.

Caiff ein prif nodau o dan y Ddeddf eu crynhoi isod, a manylir ymhellach arnynt mewn is-ddeddfwriaeth.

Rheoleiddio

Ein swyddogaeth graidd yw rheoleiddio er budd y cyhoedd. Er mwyn gwneud hyn, i ddechrau, rydym yn cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy’n gymwys i ymarfer mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, addysg oedolion a dysgu'n seiliedig ar waith. Yn ail, rydym yn cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy’n amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan y rheiny rydym yn eu cofrestru. Yn drydydd, rydym yn clywed ac yn ymchwilio i honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu droseddau perthnasol. Mae gennym gyfrifoldeb statudol hefyd i achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), a monitro eu cydymffurfiad â meini prawf cenedlaethol.

Cymorth

Rydym yn cefnogi ein cofrestreion i fodloni eu rôl fel gweithwyr proffesiynol a reoleiddir a chynnal egwyddorion allweddol y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol trwy ddarparu gwybodaeth, adnoddau a gwasanaethau defnyddiol wedi’u cynllunio i gynnig arweiniad a chyfeiriad.

Hyrwyddo

Rydym yn mynd ati i hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg yng Nghymru trwy wefan Addysgwyr Cymru a’u gwasanaeth cynghori. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru, a’i ddatblygu gan CGA, ac mae’n cynnig ystod o wasanaethau sy’n dod â chyfleoedd gyrfaoedd, hyfforddiant a swyddi at ei gilydd o fewn addysg Cymru.

Dylanwad

Rydym yn chwilio am gyfleoedd i ffurfio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru er budd ein cofrestreion. Mae ein cyfrifoldeb statudol i ddarparu cyngor, dadansoddi ymchwil, a deallusrwydd annibynnol, yn golygu y gallwn ni gefnogi cynllunio’r gweithlu ledled Cymru.

Y cyd-destun cyfreithiol

Mae gennym ddyletswydd statudol i gyhoeddi cynllun cydraddoldeb statudol sy’n amlinellu ein hymrwymiad i fynd i’r afael â gwahaniaethu. Mae hyn yn deillio o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n cynnwys dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn cwmpasu’r nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • oedran
  • ailbennu rhywedd
  • rhyw
  • hil (gan gynnwys tras ethnig neu genedlaethol, lliw, neu genedligrwydd)
  • anabledd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • crefydd neu gredo (gan gynnwys diffyg credo)
  • priodas a phartneriaeth sifil

Mae CGA yn rhwym hefyd wrth y ddyletswydd gyffredinol i gyflawni ein swyddogaethau cyhoeddus mewn ffordd sy’n cyfrannu at ddatblygiad tegwch drwy:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, a fictimeiddio anghyfreithlon, ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf
  • hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a phobl nad ydynt yn eu rhannu
  • meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, a phobl nad ydynt yn eu rhannu

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn amlinellu dyletswyddau penodol pellach y mae’n rhaid i CGA gydymffurfio â nhw, yn ymwneud â’r canlynol:

  • amcanion
  • cynlluniau cydraddoldeb strategol
  • ymgysylltu
  • asesu effaith
  • gwybodaeth am gydraddoldeb
  • gwybodaeth am gyflogaeth
  • gwahaniaethau mewn cyflog
  • hyfforddiant staff
  • caffael
  • adrodd yn flynyddol
  • cyhoeddi
  • adroddiadau gan Weinidogion Cymru
  • adolygu
  • hygyrchedd

Ein sail dystiolaeth

I sicrhau bod y cynllun yma’n effeithiol ac yn gydnaws ag anghenion amrywiol ein cyflogeion, ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid, rydym wedi ystyried ystod eang o dystiolaeth wrth ddatblygu ein hamcanion cydraddoldeb.

Mae ein hymagwedd at ymgysylltu yn cynnwys rhaglen dreigl o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allweddol a grwpiau â buddiant, lle mae materion cydraddoldeb sy’n briodol i’n cylch gwaith ymhlith y materion sy’n cael eu trafod.

Felly, mae datblygu’r cynllun hwn wedi cael ei lywio gan fewnwelediadau gan ystod eang o grwpiau ac unigolion.

Ymgysylltu mewnol

  • Sesiynau cynllunio’r Cyngor a staff
  • Fforwm cyflogeion
  • Cyfarfodydd â phob un o’r staff
  • Adolygu Perfformiad a Datblygiad/proses adolygu aelodau

Ymgysylltu â chofrestreion

  • Arolwg hygyrchedd
  • Arolygon y gweithle

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

  • Defnyddio ein rhaglen o gyfarfodydd rheolaidd (er enghraifft undebau yn cynrychioli ein cofrestreion, partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (fel rhan o’r broses achredu), swyddogion Llywodraeth Cymru)
  • Siarad â grwpiau cynrychioliadol, fel DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth) a’r Black Leadership Group
  • Tystiolaeth a gesglir gan ein tîm ‘Hyrwyddo Gyrfaoedd’ yn eu hymdrechion i hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg i unigolion o gymunedau amrywiol

Rydym yn cyfranogi mewn, ac yn ymgysylltu ag, ystod o rwydweithiau a grwpiau cydraddoldeb:

  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
  • Rhwydwaith Cyfnewidfa Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Rhwydwaith BAMEed Cymru
  • DARPL 
  • Rhwydwaith Cydraddoldeb De-ddwyrain Cymru (SEWEN)
  • Race Council Cymru
  • Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru
  • Grŵp Llywio AB Cymru Wrth-hiliol
  • Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Colegau Cymru
  • Welsh Islamic Cultural Association
  • Gwasanaeth Iechyd Meddwl BAME
  • Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-Afon
  • Uned Proffesiwn Polisi Llywodraeth y DU

Rydym hefyd yn cynnal perthnasoedd proffesiynol anffurfiol, ac yn nodi cyfleoedd i gydweithio, gydag ystod o sefydliadau eraill sy’n hyrwyddo cydraddoldeb. Mae’r rhain yn cynnwys Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Diverse Cymru, a Stonewall. Mae ymgysylltu o’r fath yn helpu sicrhau bod CGA yn ymwybodol o ystod o faterion a safbwyntiau yn gysylltiedig â chydraddoldeb.

Mae’r cynllun cydraddoldeb strategol a’r amcanion cydraddoldeb hefyd wedi cael eu llywio gan ystod o ffynonellau tystiolaeth eraill, gan gynnwys:

  • data o’n Cofrestr (sy’n cwmpasu amrywiaeth cofrestreion)
  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru
  • Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru Llywodraeth Cymru
  • ymchwil CGA (ar gyfer Llywodraeth Cymru) ar gynyddu amrywiaeth o fewn y gweithlu ysgolion yng Nghymru
  • data priodoldeb i ymarfer (PiY)
  • data cyfrifiad
  • Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2023: A yw Cymru’n Decach?
  • Mynegai lles athrawon Education Support

Ein hamcanion cydraddoldeb strategol

Bydd ein hymagwedd at gydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei harwain gan y pum amcan strategol, a amlinellir isod. Ategir yr amcanion gan gynllun gweithredu manwl sy’n amlinellu’r gweithgareddau penodol y byddwn yn ymgymryd â nhw i ddatblygu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Amcan 1: Meithrin tîm CGA amrywiol a chynhwysol

Beth yw ein nod?

Rydym eisiau gweithio tuag at y nod i gynnull tîm amrywiol[1] ynghyd o fewn CGA, sy’n fwy cynrychioliadol o boblogaeth amrywiol Cymru (ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig). Rydym hefyd eisiau sicrhau bod holl gyflogeion CGA yn cael eu trin yn deg ac yn gallu cyflawni eu potensial o fewn y sefydliad.

Pam mae’n bwysig i CGA?

Bydd datblygu tîm amrywiol a meithrin eu doniau yn sicrhau bod ein sefydliad yn gallu elwa ar ystod o wahanol sgiliau a safbwyntiau, gan wella prosesau gwneud penderfyniadau, ac ymrwymo i degwch a chydraddoldeb.

Bydd ein camau gweithredu yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • monitro ein harferion cyflogaeth i sicrhau bod CGA mewn sefyllfa dda i recriwtio a dargadw gweithlu amrywiol
  • casglu (a mynd ati i fonitro) data cydraddoldeb cynhwysfawr ac ystyrlon ynglŷn â’n cyflogeion
  • annog cyfraddau datgelu gwell (ynghylch nodweddion gwarchodedig) gan staff ac aelodau’r cyngor/paneli i ennill dealltwriaeth lawnach o’r amrywiaeth yn ein gweithlu
  • adolygu a gwella prosesau recriwtio ar gyfer staff, aelodau’r Cyngor a’r pwyllgor/panel[1] , i sicrhau tegwch i’r holl grwpiau nad oes cynrychiolaeth ddigonol ohonynt

Amcan 2: Monitro’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a nodi cyfleoedd i’w leihau

Beth yw ein nod?

Rydym eisiau gweithio i ddiddymu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, trwy sicrhau bod polisïau ac arferion yn cael eu cymhwyso sy’n ymwneud â chyflog a dilyniant yn darparu cyfle cyfartal i bawb.

Pam mae hyn yn bwysig i CGA?

A ninnau’n sefydliad bach, mae’r graddau y gallwn ddylanwadu ar ein bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau yn gyfyngedig, gyda deilliannau recriwtio unigol (er enghraifft penodi menyw i swydd uwch o fewn y sefydliad) weithiau’n effeithio’n sylweddol ar y bwlch cyflog. Fodd bynnag, rydym eisiau sicrhau bod ein cyflogeion yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg, gyda pharch i gyflog ac amodau, ni waeth beth yw eu rhywedd. Felly, mae’n bwysig ein bod yn deall ac yn monitro’n agos y bwlch cyflog rhwng y rhywiau o fewn CGA, ac yn cymryd camau i’w leihau.

Bydd ein camau yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • monitro a chyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud â’n bwlch cyflog rhwng y rhywia
  • gwella ein dealltwriaeth o unrhyw gysylltiadau rhwng y rhywiau a chyflog o fewn CGA
  • sicrhau bod staff sy’n ddynion ac yn fenywod yn cael cyfle cyfartal i wneud cynnydd o fewn CGA pan fydd cyfleoedd yn codi

Amcan 3: Gweithle cynhwysol lle dethlir amrywiaeth

Beth yw ein nod?

Rydym ni eisiau i CGA fod yn sefydliad cynhwysol, lle mae cyflogeion yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu a’u cefnogi i gyflawni hyd eithaf eu gallu, ni waeth pa nodweddion gwarchodedig a allai fod ganddynt. 

Pam mae hyn yn bwysig i CGA?

Trwy sicrhau bod yr holl gyflogeion yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u trin yn deg, rydym eisiau meithrin diwylliant lle gall staff ffynnu a chyflawni eu potensial. Gallai hyn, yn ei dro, ein galluogi i ddenu a chadw gweithlu mwy amrywiol (yn unol ag amcan un).

Bydd ein camau yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • sicrhau bod ein swyddfeydd yn groesawgar ac yn hygyrch
  • trefnu digwyddiadau sy’n dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth am wahanol grwpiau a materion sy’n berthnasol i’r nodweddion gwarchodedig, i atgyfnerthu pwysigrwydd croesawu amrywiaeth
  • cyflwyno rhaglen hyfforddi ddifyr a hygyrch ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, ar gyfer yr holl gyflogeion
  • llunio cylchlythyrau cydraddoldeb rheolaidd i rannu gwybodaeth, annog ymgysylltu a dathlu amrywiaeth
  • rhoi rhaglen les amrywiol ar waith a cheisio cynyddu ymgysylltiad â’r gweithgareddau hyn trwy nodi unrhyw rwystrau rhag ymgysylltu
  • darparu cyfleoedd i gyflogeion roi adborth a’u grymuso i leisio barn ynghylch unrhyw faterion neu bryderon yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth

Amcan 4: Cyflwyno gwasanaethau hygyrch ar gyfer cofrestreion a rhanddeiliaid

Beth yw ein nod?

Rydym eisiau sicrhau bod ein holl wasanaethau yn hygyrch ar gyfer cofrestreion a rhanddeiliaid, ni waeth beth yw hanghenion a’u galluoedd amrywiol. Byddwn yn ymdrechu i wella hygyrchedd ein gwasanaethau yn barhaus, i gyd-fynd ag arfer gorau a gofynion cyfreithiol.

Pam mae hyn yn bwysig i CGA?

Mae gofyn i ni nodi, lliniaru a, (os oes modd) dileu unrhyw rwystrau a allai wynebu ein cofrestreion a rhanddeiliaid eraill (gan gynnwys dysgwyr a rhieni/gwarcheidwaid) wrth ryngweithio â ni neu ddefnyddio ein gwasanaethau.

Bydd ein camau yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • gwrando ar gofrestreion i sicrhau bod ein gwasanaethau yn diwallu eu hanghenion amrywiol
  • nodi unrhyw rwystrau sy’n wynebu cofrestreion a rhanddeiliaid wrth ryngweithio â CGA, a chymryd camau i ddileu’r rhain, fel y bo’n briodol ac yn gymesur
  • ymchwilio i gyfleoedd i ehangu hygyrchedd ein gwasanaethau
  • nodi cyfleoedd i dynnu sylw ystod eang o gynulleidfaoedd ag anghenion a nodweddion amrywiol at ein gwaith

Amcan 5: Helpu datblygu gweithlu addysg sy’n cynrychioli’r boblogaeth amrywiol yng Nghymru

Beth yw ein nod?

Hoffem weld gweithlu addysg yng Nghymru sy’n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth ehangach yng Nghymru.

Pam mae hyn yn bwysig i CGA?

Credwn y dylai’r gweithlu addysg adlewyrchu cyfoeth cymdeithas, yn cwmpasu cefndiroedd, safbwyntiau a phrofiadau amrywiol. Felly, mae’n hanfodol sicrhau cyfleoedd gyrfa teg a chyfiawn a chael gwared ar unrhyw rwystrau a allai fod yn atal pobl o gefndiroedd amrywiol rhag gweithio o fewn y proffesiynau addysg cofrestredig.

Mae ein cyfrifoldebau’n cynnwys hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg a chynghori Llywodraeth Cymru ar faterion yn gysylltiedig â’r gweithlu addysg ac addysgu a dysgu. Yn ychwanegol, rydym wedi cael ein nodi o fewn cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn bartner/arweinydd allweddol ar gynyddu amrywiaeth ethnig y gweithlu addysg. Rydym hefyd yn ymwybodol o amcanion cynlluniau a strategaethau allweddol eraill i hyrwyddo amrywiaeth, gan gynnwys Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru.

Credwn y bydd creu gweithlu addysg sy’n fwy amrywiol yn chwarae rôl allweddol mewn meithrin cydlyniant cymdeithasol trwy alluogi dysgwyr a phobl ifanc i dyfu a datblygu mewn amgylchedd lle mae modelau rôl gweladwy ac amrywiol. Bydd gweithlu mwy amrywiol hefyd yn galluogi dysgwyr a phobl ifanc i gael eu hamlygu i ystod ehangach o safbwyntiau, gan gyfoethogi eu profiad addysgol a’u paratoi i fod yn ddinasyddion byd-eang gwybodus.

Bydd ein camau yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • defnyddio’r data unigryw o’n Cofrestr o Ymarferwyr Addysg (y Gofrestr) i fonitro amrywiaeth gweithwyr addysg proffesiynol cofrestredig yng Nghymru
  • sicrhau bod y Gofrestr yn darparu’r data llawnaf posibl ynghylch ethnigrwydd y gweithlu (o ran oedran, anabledd a rhyw, yn ogystal)
  • defnyddio ein platfform i amlygu materion yn ymwneud ag amrywiaeth o fewn y gweithlu
  • gweithio gyda chofrestreion a rhanddeiliaid i hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg i gynulleidfa amrywiol (gyda phwyslais penodol ar gynyddu amrywiaeth ethnig) a hyrwyddo gwefan a gwasanaeth cynghori Addysgwyr Cymru fel ffordd o gefnogi’r gwaith hwn
  • chwarae rôl sy’n cyfrannu, trwy Addysgwyr Cymru, at recriwtio gweithlu mwy amrywiol

Sut byddwn ni’n gwybod os ydym ni’n gwneud cynnydd?

Monitro trefniadau

Bydd ein pum amcan cydraddoldeb yn destun prosesau monitro ac adrodd manwl, yn bennaf trwy gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb, a fydd yn cael ei gyhoeddi trwy ein gwefan. Bydd ystod o fertigau ansoddol a meintiol yn cael eu defnyddio i werthuso ein cynnydd wrth gyflawni pob amcan, a bydd yr uwch dîm rheoli’n craffu ar gynnydd mewn cyfarfodydd misol. Bydd y Pwyllgor Gweithredol a Chyngor CGA hefyd yn goruchwylio ein cynnydd, a bydd yn derbyn adroddiadau chwarterol ar roi’r cynllun gweithredu ar waith.

Cyhoeddi gwybodaeth am gydraddoldeb

Yn ogystal â’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb, byddwn yn cyhoeddi ystod o ddata cydraddoldeb ychwanegol ar ein gwefan, gan gynnwys:

  • adroddiadau blynyddol am Ystadegau ar y Gweithlu Addysg, yn darparu data pwysig ar gyfansoddiad y gweithlu addysg yng Nghymru, a dadansoddiadau eraill ar wahân
  • data cydraddoldeb ar ymgeiswyr ar gyfer cofrestru a chofrestreion sydd wedi bod yn destun gweithdrefnau PiY, fel rhan o’r adroddiad blynyddol PiY
  • dadansoddiad o gyflog y rhywiau, adrodd am wybodaeth am gyflogau ein cyflogeion yn ôl rhywedd

Aros ar y llwybr cywir

I ategu ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, bydd holl brosesau a ppolisïau perthnasol (yn cynnwys y rhai ar gaffael) yn cael eu diweddaru, gan ystyried unrhyw newidiadau yn y gyfraith neu amgylchiadau mewnol neu allanol. Byddwn hefyd yn adolygu ein prosesau monitro ac adrodd o dro i dro, ac yn rhoi unrhyw welliannau angenrheidiol ar waith.

Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, bydd Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ffurfio rhan bwysig o’r broses datblygu a chymeradwyo ar gyfer unrhyw bolisi newydd (neu bolisi wedi’i adolygu). Bydd hyn yn helpu arwain prosesau mewnol, gan sicrhau bod y penderfyniadau a wneir wedi’u seilio ar dystiolaeth ac yn rhoi ystyriaeth benodol i gydraddoldeb.

Bydd Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb hefyd yn amlinellu natur unrhyw werthuso parhaus posibl o ran polisïau, gweithdrefnau ac arfer. Ar gyfer polisïau AD newydd neu rai wedi’u diwygio, bydd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei gyflwyno (ynghyd â’r polisi) i’r fforwm cyflogeion fel rhan o’r broses ymgynghori â’r staff cyfan. Bydd yr uwch dîm rheoli hefyd yn ystyried yr asesiad fel rhan o’r broses fabwysiadu. Cedwir storfa o Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb cyflawn yn ganolog.

Er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am gydraddoldeb yn cael ei defnyddio’n ystyrlon ac yn briodol i arwain y penderfyniadau a wneir, byddwn yn adolygu effeithiolrwydd ein prosesau a’n canllawiau ar Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb o dro i dro.

Hyfforddiant a datblygiad cydraddoldeb

Byddwn yn darparu hyfforddiant rheolaidd ar gyfer holl staff CGA ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd hyn yn cynnwys darparu trosolwg o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar gyfer yr holl aelodau staff newydd pan gânt eu penodi, fel rhan o’r broses sefydlu. Bydd hyn yn cael ei ategu gan sesiynau hyfforddi rheolaidd ar gyfer pob aelod o staff sy’n cwmpasu materion yn ymwneud â’r gwahanol nodweddion gwarchodedig.

Bydd hyfforddiant ar faterion yn gysylltiedig â chydraddoldeb hefyd yn cael ei ddarparu ar gyfer aelodau’r Cyngor a phwyllgorau/paneli[3] . Bydd yr hyfforddiant hwn yn cwmpasu’r ddyletswydd cydraddoldeb a’u rolau priodol mewn gosod cyfeiriad strategol CGA, adolygu ei berfformiad a sicrhau bod trefniadau llywodraethu cryf mewn grym.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol 2024-28


[1] Yn cynnwys ein staff, aelodau’r Cyngor a phwyllgorau/paneli.

[2]Yn cynnwys aelodau o’r pwyllgor PiY, bwrdd achredu AGA ac aseswyr Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid (MAGI).

[3]Yn cynnwys aelodau o’r pwyllgor PiY, y bwrdd achredu AGA a’n haseswyr MAGI.

[4]Nid yw’n ofynnol i CGA gyhoeddi dadansoddiad o gyflog y rhywiau, gan fod ein sefydliad yn gymharol fach. Fodd bynnag, mae’n ofynnol mewn deddfwriaeth i ni gael amcan cydraddoldeb ar fynd i’r afael ag unrhyw wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yr ydym wedi’i nodi.