CGA / EWC

About us banner
Siarad yn Broffesiynol 2018 gyda Iolo Williams a Sue Williams
Siarad yn Broffesiynol 2018 gyda Iolo Williams a Sue Williams

Fe gynhaliodd Cyngor y Gweithlu Addysg, mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru, ei drydydd digwyddiad 'Siarad yn Broffesiynol' ddydd Llun, 22 Hydref 2018 yn Theatr Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

Gwahoddwyd y cyflwynydd teledu a'r naturiaethwr Iolo Williams a Sue Williams, Uwch Gynghorydd Addysg Ddysgu yn yr Awyr Agored Cymru i drafod rôl natur a'r awyr agored mewn addysg fodern Gymreig a'r buddion iechyd a lles cysylltiedig.

iolo thumbMae Iolo yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru, ar ôl cyflwyno nifer o gyfresi poblogaidd yn y Gymraeg a'r Saesneg ar BBC Cymru ac S4C, gan gynnwys ei gyfres ddiweddaraf, 'Iolo's Snowdonia'.

Sue Williams yw'r Uwch Gynghorydd Addysg gyda DAAC, sy'n cynnal rhaglen Dysgu Awyr Agored Cymru.

Hefyd yn bresennol oedd Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC.

Cafodd y gynulleidfa'r cyfle i ofyn cwestiynau i'r siaradwyr yn ogystal â'r Ysgrifennydd Cabinet dros addysg yn ystod sesiwn holi ac ateb yn dilyn eu cyflwyniadau.

Yn cyflwyno'r noson oedd gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Catrin Haf Jones.

Gallwch lawrlwytho sleidiau cyflwyniad Sue yma

Digwyddiadau blaenorol