CGA / EWC

About us banner
Dosbarth Meistr Mewn Newid Addysgol: Stori Singapore
Dosbarth Meistr Mewn Newid Addysgol: Stori Singapore

Pak Tee NgAr 27 Medi, cynhaliodd Cyngor y Gweithlu Addysg, mewn partneriaeth â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a Phrifysgol Abertawe, ddosbarth meistr a gyflwynir gan addysgwr uchel ei barch Pak Tee.

Yn cyflwyno i dros 100 o arweinwyr ac uwch arweinwyr yn Abertawe, esboniodd Pak Tee sut mae system addysg flaengar Singapore yn mynd i’r afael â heriau newid a sut mae’n mynd ati i ddiwygio cwricwlwm ac addysgeg. Tynodd ar baradocsau a llwyddiannau allweddol ynghyd â’r gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd.

A yntau wedi ennill gradd o Brifysgol Caergrawnt, dechreuodd Pak Tee ei yrfa fel athro Mathemateg ac ers hynny mae wedi gweithio i’r Weinyddiaeth Addysg a’r National Institute for Education (NIE) yn Singapore. Yn ogystal â derbyn sawl gwobr mawreddog, mae Pak Tee wedi cyflwyno mewn nifer o ddigwyddiadau ledled y byd.

Yn ogystal â rhoi mewnwelediad i system addysg hynod lwyddiannus, roedd hwn yn gyfle i arweinwyr ac uwch arweinwyr drafod a myfyrio ar y newidiadau sydd ar droed ym myd addysg yng Nghymru ar hyn o bryd.

Digwyddiadau blaenorol