CGA / EWC

About us banner
Dosbarth Meistr 2026: Llesiant mewn munudau nid misoedd
Dosbarth Meistr 2026: Llesiant mewn munudau nid misoedd

13 Mai 2026, 16:00-17:00, Zoom

Ymunwch â Dosbarth Meistr 2026 ar gyfer ffordd wahanol o feddwl am, a rhoi llesiant ar waith. Eleni, ry'n ni'n croesawu Jon Bockelmann-Evans, siaradwr ysbrydoledig ac arbenigwr ar lesiant, iechyd emosiynol, a rheoli heriau bywyd.

Mae'r sesiwn wedi ei chreu i fod yn brofiad trawsnewidiol, ymarferol, ac ymgodol. Bydd yn mynd tu hwnt i dechnegau rheoli straen traddodiadol i roi dealltwriaeth ac offer i chi i feithrin llawenydd a gwydnwch.

Rhai o amcanion y sesiwn:

  • cael agwedd newydd ar lesiant fel arfer gweithgar, dyddiol, sydd wedi eu gwreiddiol mewn iechyd emosiynol, yn hytrach na nod bell
  • dadrinio gwyddoniaeth emosiynau a'u heffaith uniongyrchol ar wydnwch, gweithredol gwybyddol, a diwylliant tîm
  • creu profiad cadarnhaol a rennir sy'n meithrin cysylltiadau, yn lleihau teimladau o unigedd, a bywiogi angerdd am eich gwaith hanfodol

Trwy gydol y sesiwn, bydd Jon yn cyflwyno technegau syml, cofiadwy, a thechnegau ymarferol (gan gynnwys chwerthin therapiwtig a gwaith anadlu), i'w defnyddio yn y foment i reoleiddio'r system nerfol a gwella hwyl.

Beth bynnag yw'ch rôl, bydd y sesiwn yn rhoi dewis o strategaethau i'w defnyddio'n syth i reoli straen, cynyddi egni, a gwahodd eiliadau o lawenydd yn ystod y diwrnod gwaith. Bydd Jon yn rhannu model clir o iechyd emosiynol fel sail ar gyfer llesiant cynaliadwy, ac yn cyflwyno safbwyntiau newydd, gan ail-fframio llesiant o fod yn dasg arall, i fod yn foment integredig a hygyrch. Bydd hefyd yn rhannu ei becyn cymorth 'Wellbeing in Minutes' sy'n arfer byw, wedi ei arwain, o dechnegau hygyrch fydd wedi ei wau drwy'r awr.

Peidiwch â cholli'r Dosbarth Meistr gwerthfawr yma, sy'n siŵr o roi awgrymiadau i chi i wella eich llesiant. Cadwch eich tocyn am ddim nawr.

Ynghylch y siaradwr

Mae Jon Bockelmann-Evans wedi rhedeg dros 1,000 o gyrsiau hyfforddi a chyflwyno sgyrsiau mewn dros 100 o gynadleddau i dros 40,000 o bobl yn y DU, Ewrop ac UDA. Mae ei gleientiaid blaenorol yn cynnwys Nike, Dow, Merck, EE, cannoedd o ysgolion yn y DU, BBaCh, a nifer o sefydliadau sector cyhoeddus.

Mae gwybodaeth Jon o ffisioleg, seicoleg, a datblygiad personol yn hysbysu ei waith, yn ogystal â'i brofiad clinigol fel ffisiotherapydd, seicotherapydd, a chyfryngwr y gweithle.

Yn ystod y pandemig, fe wnaeth Jon ddarganfod grym defnyddio chwerthin fel ffurf o ymarfer corff i reoli ei hwyl, safbwynt, ac iechyd corfforol. Mae'n mwynhau dod â buddion iechyd a chymdeithasol chwerthin i grwpiau ymylol sy'n cael eu tangynrychioli mewn cymdeithas, fel y rheiny â chyflyrau iechyd cronig, anableddau, a'r henoed.

Mae sgyrsiau Jon yn nodweddiadol am eu heffaith yn syth, a hirdymor ar fynychwyr, gyda nifer yn dweud eu bod yn brofiadau trawsnewidiol. Mae wedi ymrwymo i helpu pobl i reoli eu hwyl, llesiant, a'u gallu i ddelio gyda'r heriau sy'n wynebu pawb o dro i dro.