Dewiswch eich iaith
Mae’r rôl yn galw am feddwl annibynnol, cyfraniad adeiladol at drafodaethau strategol, uniondeb ac ymrwymiad cadarn i gydraddoldeb, cynhwysiant a’r Gymraeg. I ddysgu rhagor, ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau mai dim ond ymarferwyr cofrestredig sy’n cael eu cyflogi i wneud gwaith sy’n benodol i’w categori cofrestru.
Hwn yw'n clwb llyfrau a chyfnodolion i helpu ein cofrestreion i wneud y mwyaf o’u mynediad am ddim i lyfrgell ymchwil addysg fwyaf y byd, EBSCO. Dysgwch fwy neu tanysgrifiwch i’n rhestr bostio.
Mae mwy o ddigwyddiadau ar y gweill gyda ni.
Yn y cyfamser, beth am wylio recordiadau o’n digwyddiadau blaenorol isod.


13 Tachwedd 2025

14 Hydref 2025








18 Mai 2023







8 Mehefin 2022

27 Ebrill 2022

1 Chwefror 2022


6 Rhagfyr 2021

25 Tachwedd 2021

25 Tachwedd 2021

28 Chwefror 2021






Bydd cofrestreion yn derbyn Cylchlythyr FyCGA yn awtomatig. Os ydych chi hefyd am dderbyn cylchlythyr CGA, neu os nad ydych yn un o’n cofrestreion ac am gael y wybodaeth ddiweddaraf gennym, cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen hon.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch
Gallwch ddarllen rhifynnau blaenorol Cylchlythyr CGA yma.
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad manwl o’r gweithlu addysg yng Nghymru. Cynhyrchwyd yr ystadegau o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg.
Mae’r Gofrestr yn amser real ac mae’n ffynhonnell unigryw o ddata am y saith grwp addysg cofrestredig yng Nghymru. Nid oes data cyfatebol ar gael gan unrhyw gorff neu sefydliad arall. O ganlyniad, ni ddylid cymharu â ffynonellau eraill, fel Cyfrifiad Blynyddol y Gweithlu Ysgolion Llywodraeth Cymru (CBGY), a gyhoeddir yn flynyddol. Ar gyfer y sector ysgolion yn enwedig, ac yn wahanol i CBGY, mae data CGA yn cynnwys pob athro cyflenwi, gweithiwr peripatetig, gweithiwr llawrydd ac eraill sy’n cynnig addysg neu hyfforddiant mewn ysgol ynghyd â lleoliadau addysg eraill. Rydym hefyd yn cynnal data hanesyddol sy’n ein galluogi i ddarparu gwybodaeth tuedd.
O dan y rheoliadau, rhaid i ymarferwyr gofrestru yn y categori neu’r categorïau ar gyfer y gwaith a wnânt, neu’r gwaith y bwriadant ei wneud. O ganlyniad, mae rhai ymarferwyr wedi’u cofrestru mewn mwy nag un categori.
Ers Mai 2024, mae deddfwriaeth newydd wedi ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr dysgu oedolion, a phenaethiaid neu uwch arweinwyr sy'n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach i gofrestru gyda ni. O ganlyniad, am y tro cyntaf, mae data yn berthnasol i ymarferwyr dysgu oedolion a phenaethiaid ac uwch arweinwyr addysg bellach, wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn.
Adran 2: Sector ysgolion a gynhelir
Adran 3: Sector addysg bellach
Adran 4: Sector addysg oedolion
Adran 5: Sector ieuenctid cymwys
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Gostyngodd nifer yr athrawon ysgol cofrestredig yn 2025 o'i gymharu â 2024 o 1.7% (35,266 yn 2025; 35,865 yn 2024). Dyma'r gostyngiad cyntaf a welwyd ers 2021.
Mae 75.8% o athrawon ysgol yn fenywaidd, cynnydd o 0.2% ers 2024.
Mae 92.7% o athrawon ysgol wedi datgan eu hethnigrwydd fel Gwyn, cynnydd o 0.2% i gymharu ag llynedd(4.0% anhysbys). O ran hunaniaeth genedlaethol, mae 64.3% yn nodi eu hunain fel Cymry (cynnydd o 0.7% ers 2024) a 23.7% fel Prydeinwyr (gostyngiad o 0.1% ers 2024) a 3.8% anhysbys.
Mae'r nifer a enillodd Statws Athro Cymwysedig (SAC) pum mlynedd yn ôl wedi gostwng ychydig (20.3% yn 2025; 20.4% yn 2024) ond mae'n parhau'n uwch nag yr oedd yn 2021 (19.2%).
Mae 33.4% o athrawon ysgol yn siarad Cymraeg, a 26.9% yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg gyda mawr ddim amrywiad o flwyddyn i flwyddyn.
Yng Nghymru, nid yw SAC yn benodol i ystod oedran na phwnc. O'r athrawon ysgol uwchradd a chanol sy'n addysgu mathemateg, Saesneg, neu Gymraeg, mae 78.2%, 75.1%, a 69.7% yn y drefn honno wedi'u hyfforddi yn y pwnc maen nhw'n ei addysgu. Yn y pynciau sylfaen, ac eithrio technoleg gwybodaeth (42.4%), mae ymarferwyr ysgol uwchradd a chanol sydd wedi'u hyfforddi yn y pwnc maen nhw'n ei addysgu yn amrywio o 72.6% i 87.7%.
Wrth adolygu carfan 2020 o gofrestreion ar ôl pum mlynedd, yn 2025 parhaodd 75.9% wedi'u cofrestru fel athrawon ysgol gyda 22.0% wedi dadgofrestru. Wrth adolygu carfan 2015 ar ôl 10 mlynedd yn 2025, parhaodd 57.7% wedi’u cofrestru gyda 39.6% wedi dadgofrestru o CGA.
Mae gan weithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion cofrestredig 45,887 o gofrestreion yn 2025, mae hyn wedi gostwng 2.3% ers 2024 (46,962).
Mae cyfran uwch (85.5%) yn fenywod o'i gymharu â'r grwpiau cofrestru eraill (0.2% yn llai na llynedd). Y categori uchaf nesaf gyda chanran uwch o fenywod yw athrawon ysgol gyda 75.8%.
Mae 19.8% o weithwyr cymorth dysgu ysgol o dan 25 oed, sy'n gynnydd o 0.8% ers 2024.
Datganodd 79.0% o weithwyr cymorth dysgu ysgol eu bod yn Wyn ac 11.8% yn anhysbys. O ran hunaniaeth genedlaethol, mae 46.6% yn nodi eu hunain fel Cymry tra bod 11.7% yn anhysbys.
Mae 21.0% yn gallu siarad Cymraeg ac mae 17.9% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. (8.5% ac 8.6% yn anhysbys yn y drefn honno).
Wrth adolygu carfan 2020 o gofrestreion ar ôl pum mlynedd, yn 2025 parhaodd 50.2% ohonynt wedi’u cofrestru yn yr un categori, gyda 10.1% wedi symud i gategori cofrestru arall tra bod 39.7% wedi dadgofrestru o CGA.
Roedd nifer yr athrawon AB cofrestredig yn 2025 (6,588) 8.3% yn uwch nag yn 2017 (6,083).
Mae'r rhaniad rhywedd yn fwy cytbwys o'i gymharu â'r sector ysgolion, gyda 59.4% yn fenywod a 40.6% yn wrywod (0.1% heb ei nodi).
Mae'r gweithlu AB yn hŷn na'r gweithlu ysgolion. Mae 46.6% yn 50 oed neu’n hŷn o'i gymharu â 27.8% o athrawon ysgol.
Datganodd 80.7% o athrawon AB eu hethnigrwydd fel Gwyn (12.4% yn anhysbys). Datganodd 48.5% eu bod yn Gymry a 27.4% eu bod yn Brydeinig (12.4% yn anhysbys).
Datganodd 18.8% eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu'n gymharol rugl a 13.7% yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. (10.4% yn anhysbys ar gyfer y ddau).
Wrth adolygu carfan 2020 o gofrestreion, ar ôl pum mlynedd, yn 2025 parhaodd 60.8% o athrawon AB wedi'u cofrestru yn yr un categori, gyda 5.3% wedi symud i gategori cofrestru arall, a 33.9% wedi dadgofrestru o CGA.
Mae'r nifer sydd wedi cofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu AB wedi cynyddu o 4,222 yn 2017 i 5,117 yn 2025. Fodd bynnag, gostyngodd y ffigur hwn o 2024 (6,212). Mae hyn yn rhannol oherwydd cael gwared ar unigolion a oedd wedi cofrestru ar draws sawl categori nad oedd angen iddynt fod.
Mae mwyafrif y gweithwyr cymorth dysgu AB yn fenywod (66.2%) sy'n wahanol i athrawon AB lle mae rhywedd yn fwy cytbwys (59.4% yn fenywod; 40.6% yn wrywod).
Datganodd 83.2% o weithwyr cymorth dysgu AB eu hethnigrwydd fel Gwyn (7.0% yn anhysbys). O ran hunaniaeth genedlaethol, nododd 46.1% eu bod yn Gymry a 32.5% yn Brydeinig (7.1% yn anhysbys).
O'r rhai a wnaeth ddatganiad, mae 16.9% yn gallu siarad Cymraeg ac mae 11.4% yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg (6.2% yn anhysbys ar gyfer y ddau).
Wrth adolygu carfan 2020 o gofrestreion, ar ôl pum mlynedd, yn 2025 parhaodd 44.4% o athrawon gweithwyr cymorth dysgu AB wedi'u cofrestru yn yr un categori, gyda 13.8% wedi symud categori cofrestru, a 41.8% wedi dadgofrestru o CGA.
Ychwanegiad newydd at yr ystadegau eleni yw'r categori penaethiaid ac uwch arweinwyr AB, sydd â 361 o gofrestrwyr.
Gwelodd y rhaniad rhywedd 54.8% yn fenywod, 34.6% yn wrywod, a'r 10.5% arall heb eu nodi.
Mae 50.7% o benaethiaid ac uwch arweinwyr AB yn 50 oed neu'n hŷn, o'i gymharu â 46.6% o athrawon AB.
Datganodd 72.6% o benaethiaid ac uwch arweinwyr AB eu hethnigrwydd fel Gwyn (24.1% yn anhysbys). O ran hunaniaeth genedlaethol, nododd 42.7% eu bod yn Gymry a 23.8% Prydeinig (24.1% yn anhysbys).
O'r rhai a wnaeth ddatganiad, mae 21.6% yn gallu siarad Cymraeg ac mae 16.3% yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (21.3% yn anhysbys ar gyfer y ddau).
Mae'r nifer sydd wedi cofrestru yn y categori ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith (DSW) wedi gostwng 3.0% ers 2024 (3,533 yn 2024; 3,426 yn 2025).
Mae'r rhaniad rhywedd yn dangos bod 62.3% o ymarferwyr DSW yn fenywod a 37.7% yn wrywod.
Datganodd 87.2% o ymarferwyr DSW eu bod yn Wyn (8.1% yn anhysbys). O ran hunaniaeth genedlaethol, nododd 51.3% eu bod yn Gymry a 29.7% eu bod yn Brydeinig. (8.1% yn anhysbys).
O'r rhai sydd wedi gwneud datganiad, dywedodd 16.1% o ymarferwyr DSW eu bod yn gallu siarad Cymraeg a 12.2% yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg (5.5% yn anhysbys yn y ddau).
O ran gwybodaeth am gymwysterau, mae 81.9% o gofnodion ymarferwyr DSW yn hysbys ac o'r rheini, mae gan 45.8% gymhwyster ar lefel 6 neu uwch.
Wrth adolygu carfan 2020 o gofrestreion, ar ôl pum mlynedd, yn 2025 parhaodd 46.6% o ymarferwyr DSW wedi'u cofrestru yn yr un categori, gyda 6.2% wedi symud I gategori cofrestru arall, a 47.2% wedi dadgofrestru o CGA.
Ychwanegiad newydd arall at yr ystadegau adrodd yw ymarferwyr addysg oedolion sydd â 284 o gofrestreion.
Mae'r rhaniad rhywedd yn dangos bod 79.2% o ymarferwyr addysg oedolion yn fenywod, 18.3% yn wrywod, a 2.5% heb eu nodi.
Fel athrawon ysgol ac ymarferwyr DSW, mae ystod oedran ymarferwyr addysg oedolion yn eithaf cytbwys, gyda lledaeniad da o ymarferwyr ar draws yr ystodau oedran 30-60. Yn y grŵp oedran 50-59 y gwelwyd y ganran uchaf o gofrestreion sef 33.1%.
Datganodd 58.5% o ymarferwyr addysg oedolion eu hethnigrwydd fel Gwyn (38.7% yn anhysbys). O ran hunaniaeth genedlaethol, nododd 37.3% eu bod yn Gymry a 19.7% yn Brydeinig (38.4% yn anhysbys).
O'r rhai a wnaeth ddatganiad, mae 9.2% yn gallu siarad Cymraeg, a 3.9% yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg (37.3% a 38.0% yn anhysbys yn y drefn honno).
Gall gweithwyr ieuenctid cymwys i gofrestru gyda CGA os oes ganddynt un o'r cymwysterau gorfodol a restrir yn y Rheoliadau. Mae'r niferoedd sydd wedi cofrestru yn y sector gwaith ieuenctid wedi cynyddu 22.2% ers 2018 (383 yn 2018; 468 yn 2025).
Fel y categorïau cofrestru eraill, mae'r sector gwaith ieuenctid yn bennaf yn fenywod sef 70.7%.
Mae proffil oedran gweithwyr cymorth ieuenctid yn dangos bod y rhan fwyaf o'r gweithlu o fewn y grwpiau oedran 30-39 a 40-49 sef 28.4% a 29.1%. Mae 13.5% o dan 30 oed gan adael y lleiafswm o'r gweithlu yn y grŵp oedran 60+ sef 7.1%.
Datganodd 80.1% o weithwyr ieuenctid eu hethnigrwydd fel Gwyn (13.2% yn anhysbys). O ran cenedligrwydd, mae 53.8% wedi datgan eu bod yn Gymry, a 22.4% yn Brydeinig (13.5% yn anhysbys).
O'r rhai a wnaeth ddatganiad, mae 15.6% o weithwyr ieuenctid yn gallu siarad Cymraeg ac mae 10.5% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg (9.2% a 9.4% yn anhysbys, yn y drefn honno).
Wrth adolygu carfan 2020 o gofrestreion, ar ôl pum mlynedd, yn 2025 parhaodd 61.5% o weithwyr ieuenctid wedi’u cofrestru, gyda 6.1% wedi cofrestru mewn categori arall a 32.4% wedi dadgofrestru o CGA.
Gall gweithwyr cymorth ieuenctid cymwys i gofrestru gyda CGA os oes ganddynt un o'r cymwysterau gorfodol a restrir yn y Rheoliadau. Mae'r niferoedd sydd wedi cofrestru yn y sector gweithwyr cymorth ieuenctid cymwys wedi cynyddu 1.5% ers 2018 (689 yn 2018; 699 yn 2025).
Fel y categorïau cofrestru eraill, mae'r sector gwaith cymorth ieuenctid yn bennaf yn fenywod sef 70.1%.
Mae proffil oedran gweithwyr cymorth ieuenctid cymwys yn dangos tebygrwydd i weithwyr ieuenctid cymwys lle mae'r rhan fwyaf o'r gweithlu o fewn y grwpiau oedran 30-39 a 40-49, sef 29.5% a 24.9%. Fodd bynnag, y gwahaniaeth mwyaf yw bod mwy o bobl o dan 30 oed sef 23.7% o'i gymharu â 13.5% o weithwyr ieuenctid cymwysedig.
Datganodd 80.7% o weithwyr cymorth ieuenctid cymwys eu hethnigrwydd fel Gwyn (14.2% yn anhysbys). O ran hunaniaeth genedlaethol, datganodd 57.5% eu bod yn Gymry, a 21.2% yn Brydeinig (14.2% yn anhysbys).
O'r rhai a wnaeth ddatganiad, mae 18.9% o weithwyr cymorth ieuenctid cymwys yn gallu siarad Cymraeg, ac mae 15.0% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg (9.7% yn anhysbys yn y ddau).
Wrth adolygu carfan 2020 o gofrestreion, ar ôl pum mlynedd, yn 2025 parhaodd 48.3% o weithwyr ieuenctid cymorth cymwys wedi'u cofrestru, gyda 13.5% wedi cofrestru mewn categori arall, a 38.2% wedi dadgofrestru o CGA.
Ers mis Mai 2023, mae'n ofynnol i ymarferwyr sy'n gweithio yn y sector annibynnol gofrestru gyda CGA. Cynhwyswyd y pedwar categori cofrestru annibynnol yn y cyhoeddiad hwn am y tro cyntaf yn 2024. Felly, gyda blwyddyn ychwanegol o ddata rydym yn gallu cynnal dadansoddiadau pellach am y tro cyntaf.
Mae nifer y rhai sydd wedi cofrestru fel athrawon ysgol annibynnol wedi codi 9.4% o 1,817 yn 2024 i 1,988 yn 2025.
Fel y categorïau cofrestru eraill, mae gweithlu athrawon ysgol annibynnol yn fenywod yn bennaf sef 64.7%.
Mae proffil oedran athrawon ysgol annibynnol yn gyson ag athrawon ysgol gyda'r mwyafrif o unigolion o fewn y grŵp oedran 40-49 (30.7%)
Datganodd 85.7% o athrawon ysgol annibynnol eu hethnigrwydd fel Gwyn (6.4% yn anhysbys). O ran hunaniaeth genedlaethol, mae 37.3% wedi datgan eu hunaniaeth fel Cymry, a 36.1% fel Prydeinwyr, sef y ganran uchaf ar draws yr holl grwpiau cofrestru (6.3% yn anhysbys).
O'r rhai a wnaeth ddatganiad, mae 9.8% o athrawon ysgolion annibynnol yn gallu siarad Cymraeg a 3.4% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, sef y ganran isaf ar draws yr holl gategorïau cofrestru (3.4% a 3.5% yn anhysbys yn y drefn honno).
Mae nifer y gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol wedi cynyddu 23.3% o 1,117 yn 2024 i 1,378 yn 2025.
Fel y categorïau cofrestru eraill, mae gweithlu'r gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol yn bennaf yn fenywod, sef 71.0%.
Mae proffil oedran gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol yn dangos bod 28.7% o dan 30 oed (o'i gymharu â 7.7% o athrawon ysgolion annibynnol).
Datganodd 83.1% o weithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol eu hethnigrwydd fel Gwyn (7.2% yn anhysbys). O ran cenedligrwydd, mae 39.0% wedi datgan eu hunaniaeth fel Cymry, a 30.8% fel Prydeinwyr (7.2% yn anhysbys).
O'r rhai a wnaeth ddatganiad, mae 9.5% o weithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol yn gallu siarad Cymraeg ac mae 3.6% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. (3.5% a 3.6% yn anhysbys yn y drefn honno).
Mae nifer y rhai sydd wedi cofrestru fel athrawon sefydliad arbennig annibynnol ôl-16 wedi gweld cynnydd o 15.5% o 84 yn 2024 i 97 yn 2025.
Fel y categorïau cofrestru eraill, mae gweithlu athrawon sefydliad arbennig annibynnol ôl-16 yn bennaf yn fenywod sef 75.3%.
Mae proffil oedran athrawon sefydliad arbennig annibynnol ôl-16 yn dangos mai'r grwpiau mwyaf yw athrawon 30-39 oed a 40-49 oed, pob un yn ffurfio 30.9% o'r gweithlu. Mewn cyferbyniad, dim ond 7.2% sydd o dan 30 oed.
Datganodd 82.5% o athrawon sefydliad arbennig annibynnol ôl-16 eu hethnigrwydd fel Gwyn (9.3% anhysbys). O ran hunaniaeth genedlaethol, mae 44.3% wedi datgan eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymry, a 28.9% fel Prydeinwyr (9.3% anhysbys).
O'r rhai a wnaeth ddatganiad, mae 17.5% o athrawon sefydliadau arbennig annibynnol ôl-16 yn gallu siarad Cymraeg ac mae 10.3% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg (4.1% yn anhysbys yn y ddau).
Mae nifer y gweithwyr cymorth dysgu sefydliadau annibynnol arbennig ôl-16 wedi gweld gostyngiad o 2.4% o 292 yn 2024 i 285 yn 2025.
Fel y categorïau cofrestru eraill, mae'r gweithlu cymorth dysgu sefydliadau annibynnol arbennig ôl-16 yn fenywod yn bennaf, sef 75.1%.
Mae 53.0% o weithwyr cymorth dysgu sefydliadau annibynnol arbennig ôl-16 yn 39 oed neu'n iau.
Datganodd 70.9% o weithwyr cymorth dysgu sefydliadau annibynnol arbennig ôl-16 yn datgan eu hethnigrwydd fel Gwyn (16.1% yn anhysbys). O ran hunaniaeth genedlaethol, mae 35.1% wedi datgan eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymry, a 26.3% fel Prydeinwyr (16.1% yn anhysbys ).
O'r rhai a ddatganodd, mae 7.7% o weithwyr cymorth dysgu sefydliadau annibynnol arbennig ôl-16 yn gallu siarad Cymraeg ac mae 2.5% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg (4.6% a 4.9% yn y drefn honno).
Rydym yn cynnal briffiau polisi yn rheolaidd lle’r ydym yn trafod prif faterion addysgiadol yng Nghymru (yn seiliedig ar y data a’r tueddiadau diweddaraf o’n Cofrestr), ac yn gwahodd siaradwyr allweddol i drafod eu syniadau.
Ffocws ein brîff polisi eleni oedd canfyddiadau'r Arolwg Cenedlaethol o'r Gweithlu Addysg yng Nghymru 2021 , a gynhaliwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, undebau llafur a phartneriaid allweddol eraill.
Taflodd y digwyddiad oleuni ar nifer o faterion sy'n effeithio ar ein cofrestreion ar draws pob sector (ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a gwaith ieuenctid). Roedd y rhain yn cynnwys baich gwaith, lles, dysgu proffesiynol ac effaith COVID-19.
Daeth tua 100 o fynychwyr, gan gynnwys gwneuthurwyr polisi, rhanddeiliaid addysg, a chofrestreion CGA, ynghyd i drafod themâu a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg a'u goblygiadau posibl. Roedd hefyd yn gyfle iddynt gael atebion i'w cwestiynau llosg gan ein panel o arbenigwyr cenedlaethol.
Gwyliwch y briffiad polisi ar ein sianel YouTube
Ar 14 Hydref 2020 bu i ni gynnal ein brîff polisi rhithwir cyntaf erioed ar recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru. Gan adeiladu ar ein brîff polisi yn 2017, cyflwynodd digwyddiad eleni’r darlun mwyaf cyfredol o’r sefyllfa yng Nghymru.
Daeth y brîff, a gynhaliwyd ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, â dros 160 o randdeiliaid addysg ynghyd i archwilio themâu sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil dadansoddiadau data a gweithgarwch ymchwil cynhwysfawr.
Yn dilyn araith agoriadol gan Kirsty Williams MS, dechreuon ni’r sesiwn trwy edrych ar brif ganfyddiadau ein dadansoddiad data ar draws amrywiol feysydd. Fe archwilion ni themâu megis y Gymraeg, arweinyddiaeth, sefydlu a recriwtio i raglenni AGA.
Yna, clywodd y mynychwyr am dueddiadau ymddangosol ym maes recriwtio a chadw athrawon ledled y DU ac ar lefel fyd-eang, yn ogystal ag edrych ar rai o’r strategaethau sydd wedi cael eu defnyddio i fynd i’r afael â’r rhain.
Yn y cylch olaf o gyflwyniadau cafwyd golwg ar y cynlluniau diweddaraf i fynd i’r afael â materion ynghylch recriwtio a chadw. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyniad gan Dr Hazel Hagger, cadeirydd bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) CGA, a ganolbwyntiodd ar y dull Cymreig o weithredu AGA. Yna, clywodd mynychwyr am wefan sydd i fod i lansio yng ngwanwyn 2021 a gwasanaeth eiriolaeth, sydd eisoes ar waith, sy’n rhan o ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg cofrestredig.
I gloi’r sesiwn, cafodd mynychwyr gyfle i ofyn y cwestiynau am bynciau llosg i banel o arbenigwyr oedd yn cynnwys Hayden Llewellyn, sef Prif Weithredwr CGA. Yn ymuno ag ef oedd Kevin Palmer (Dirprwy Gyfarwyddwr Addysgeg, Arwenyddiaeth a Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru), Dr Hazel Hagger, Elaine Sharpling (Cyfarwyddwr Addysg Athrawon, Huw Powell (Pennaeth, Ysgol Uwchradd y Fair Ddihalog), Matthew Evans (Pennaeth, Ysgol Gyfun Glantaf).