Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cefnogi effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru unwaith eto, drwy gymryd rhan yn Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni.
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid, a gynhelir yn flynyddol rhwng 23 a 30 Mehefin, ac mae'n gyfle i ddathlu'r gwahaniaeth positif mae gwaith ieuenctid yn gwneud i fywydau pobl ifanc ym mhob cwr o Gymru. Mae hi hefyd yn gyfle i gydnabod ymroddiad miloedd o staff a gwirfoddolwyr, ac mae nifer ohonynt wedi cofrestru gyda CGA.
Mae'r sector gwaith ieuenctid yn gwneud cyfraniad hanfodol ar draws y sector addysg yng Nghymru drwy gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol, ac emosiynol pobl ar y cyd gyda'u cynnydd academaidd. Mae'n darparu cyfleoedd dysgu anffurfiol sy'n ategu addysg ffurfiol, gan helpu pobl ifanc adeiladu hyder, datblygu sgiliau bywyd, ac ymgysylltu'n fwy cadarnhaol gyda bywyd ysgol a'r gymuned.
Fel rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025, bydd CGA yn rhannu ac yn hyrwyddo gwerth gyrfa mewn gwaith ieuenctid, yn ogystal ag effaith y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru, menter allweddol sydd wedi helpu llywio a dathlu rhagoriaeth yn y sector.
Dywedodd Bethan Holliday-Stacey, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi yn CGA "Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn ffordd wych o daflu goleuni ar y gwaith gwych mae sefydliadau gwaith ieuenctid, eu staff, a gwirfoddolwyr ym mhob cwr o'r wlad yn gwneud.
"Roeddem wrth ein bodd i gynnal digwyddiad arbennig mis diwethaf yn Eisteddfod yr Urdd i longyfarch rhai sydd wedi cael MAGI. Roedd yn gyfle perffaith i ddathlu cyrhaeddiad pwysig y 40 a mwy o sefydliadau sy'n dal y wobr ar hyn o bryd."
Mae CGA yn gweinyddu MAGI ar ran Llywodraeth Cymru. Tra ei fod yn ddyfarniad cenedlaethol, mae hefyd yn declyn defnyddiol hunanasesu, datblygiad strategol, a gwelliant parhaus o ran arfer gwaith ieuenctid.