Sut mae gwaith ieuenctid o ansawdd da a’i effaith helpu gyda gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru.
A minnau’n Gadeirydd Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid ac wedi gweithoi fel gweithiwr ieuenctid, rwy’ wedi gweld enghreifftiau dirifedi o’r ffordd y gall gwaith ieuenctid o ansawdd da gefnogi a thrawsnewid bywyd pobl ifanc.
Roedd y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2022 yn arddangosfa o’r amrywiaeth mor ardderchog sy’n digwydd yn y sector gwaith ieuenctid, ond beth mae gwaith ieuenctid o ansawdd yn ei olygu? Beth yw’r cynhwysion? Sut mae hyn yn ategu cynnydd gwaith y bwrdd gwaith ieuenctid hyd yma?
Yn anad dim, ystyr ‘ansawdd’ yw galluogi pob person ifanc i gael at waith ieuenctid, a hawl i waith ieuenctid, sydd wedi ei siapio ganddyn ac iddynt, dull wedi’i arwain gan gymheiriaid. Pŵer gan bobl ifanc i wneud penderfyniadau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol i ddatblygu gwaith ieuenctid yn y ffordd y maent am ei weld. Nodi beth sydd ei angen yn eu cymuned i ategu’u diwylliant, eu hunaniaeth, eu hymdeimlad o berthyn, ac sy’n cefnogi’u holl botensial. Rwy’ am weld gwasanaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru sy’n cefnogi dull seiliedig ar hawliau, yn gyfoethog o ran cynhwysiant.
Maes arwyddocaol arall yn gysylltiedig ag ansawdd yw’r fframwaith deddfwriaethol y mae gwaith ieuenctid yn dod ynddo er mwyn gwarchod a chynnal gwaith ieuenctid i genedlaethau’r dyfodol. Mae’n rhaid i’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau hyn fod yn gadarn er mwyn gwarchod y sector gwirfoddol a’r sector a gynhelir. Mae angen cyllid ac adnoddau’n barhaus fel bod gweithlu o staff taledig a gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl ifanc. Mae gwaith traws-polisi yn hanfodol ynghyd â phartneriaethau wedi’u cyd-gynhyrchu. Mae methodoleg ymarfer gwaith ieuenctid yn rhychwantu sawl maes ac mae ganddo le ym meysydd iechyd, cyfiawnder ieuenctid, tai, addysg a sawl maes arall.
Mae cael at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol i’n sector. Mae angen i ni fod yn ddewr wrth i ni gefnogi, galluogi a grymuso pobl ifanc ar adegau allweddol ac fel bod pwys gwirioneddol ar y sector gwaith ieuenctid a gwir ddealltwriaeth ohono.
Mae angen strwythurau llywodraethu ac arwain cadarn arnom. Un o flaenoriaethau’r Bwrdd Gweithredu Gwaith Ieuenctid yw ymchwilio i ddatblygu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru ac archwilio sut beth fyddai rôl a chylch gwaith y corff hwn.
Mae angen i ni ddathlu ein sector ac rwy’ wrth fy modd y bydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn parhau i weinyddu’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid am flwyddyn arall, fel y gall gwasanaethau ieuenctid ddangos tystiolaeth o’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i fywyd pobl ifanc.
Y cwestiwn mawr yn aml yw ‘Sut rydych chi’n gwybod pa wahaniaeth rydych chi’n ei wneud, beth yw’r deilliannau?’ Mae’n syml. Gofynnwch i bobl ifanc, cynhwyswch bobl ifanc. Bydd y Pwyllgor Ieuenctid sy’n cefnogi gwaith y Bwrdd yn hollbwysig i ddatblygu ein strategaeth gwaith ieuenctid i Gymru.
“Ni wneir unrhyw benderfyniad am bobl ifanc, heb bobl ifanc.”
Sharon Lovell, MBE
Cadeirydd
Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid.