Mae’n rhaid i holl ymarferwyr y mae gofyn iddynt gofrestru gyda ni dalu ffi gofrestru blynyddol.
Ffioedd ar gyfer 2022-23
Pennir y ffioedd canlynol gan Lywodraeth Cymru ac maent yn ofynnol er mwyn cofrestru gyda ni.
£45 | Athro cymwysedig | SAC yn hanfodol |
Athro addysg bellach (AB) | ||
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith | ||
Gweithiwr ieuenctid | Cymwysterau gorfodol | |
£15 | Gweithiwr cymorth dysgu ysgol | |
Gweithiwr cymorth dysgu AB | ||
Gweithiwr cymorth ieuenctid | Cymwysterau gorfodol |
Os ydych wedi'ch cofrestru mewn mwy nag un categori, er enghraifft, athro AB a gweithiwr cymorth dysgu AB, dim ond un ffi fydd yn rhaid i chi ei thalu. Fodd bynnag, byddwch yn talu'r ffi uwch o'r ddau gategori. Mae'r ffi yr un peth os ydych yn gweithio'n rhan neu'n llawn amser.
Sut i Dalu
Bydd eich cyflogwr yn didynnu'ch ffi o'ch cyflog ar ddiwedd mis Mawrth bob blwyddyn. Os nad ydych chi wedi eich cyflogi dan gytundeb ac na thelir eich ffi gan eich cyflogwr, yna bydd angen i chi ein talu ni'n uniongyrchol. Gallwch wneud hyn ar-lein rhwng dechrau Chwefror a diwedd Mawrth bob blwyddyn.
Os ydych yn cyflwyno cais newydd, mae’r dudalen talu ar ddiwedd y ffurflen gais.
Dysgwch fwy am fuddion cofrestru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffi gofrestru, mae croeso i chi
Rhyddhad Treth
Me eich ffi gofrestru yn gymwys am ryddhad treth a nid yw’n effeithio ar eich gallu i hawlio rhyddhad treth ar danysgrifiadau cymdeithasau athrawon neu undebau. I hawlio rhyddhad treth, cysylltwch â’ch Swyddfa Dreth lleol.