Meurig Jones – 8 Hydref 2026
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 5-8 Hydref 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Meurig Jones.
Canfu'r pwyllgor bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro ysgol yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, ar neu o gwmpas Medi i Hydref 2022, bod Mr Jones wedi dweud geiriau gydag effaith o:
- "pam fod gan bobl ddu ddwylo gwyn? Ai achos y sialc yn dod off y waliau pan maen nhw'n cael eu harestio?"
- "Os na wnewch chi gadw gweithio, bydd hi'n amser nôl y chwipiau"
- "dyw [y ci therapi] ddim am dreulio'i ddiwrnod gyda 'degenerates' yn driblo mewn i'w corn fflecs"
- "dwyt ti ddim yn edrych fel un ohonyn nhw" mewn ymateb i ddarganfod bod disgybl yn hoyw
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd:
- fod y sylw ym mharagraff 1 yn hiliol
- fod y sylwadau ym mharagraffau 2, 3, a 4, yn amhriodol, sarhaus, a thrallodus.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Mr Jones fel athro ysgol am gyfnod o 15 mis (rhwng 8 Hydref 2026 hyd 8 Ionawr 2028). O'r herwydd ni fydd Mr Jones yn gallu gweithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Mr Jones yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.



