Samuel Aiden Davies - 10 Rhagfyr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 8–10 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Samuel Aiden Davies.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi gan Ap Prentis, ac yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd (‘yr Ysgol’), bod Mr Davies:
- yn ystod neu o gwmpas 2022, wedi gwneud y sylwadau amhriodol canlynol mewn perthynas â dysgwyr:
- “rwyt ti’n edrych yn dda heddiw”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi gwneud sylw ynglŷn â chyfarfod a mynd am “sesh”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- yn ystod neu o gwmpas 2022, mewn perthynas â Dysgwr A:
- wedi anfon negeseuon at Ddysgwr A ar Snapchat
- wedi anfon llun(iau) o’i hun at Ddysgwr A
- yn ystod neu o gwmpas 2022, mewn perthynas â Dysgwr B:
- wedi gofyn i Ddysgwr B ei ychwanegu ar Snapchat
- wedi anfon negeseuon at Ddysgwr B ar Snapchat
- wedi anfon lluniau o’i hun at Ddysgwr B ar Snapchat
- wedi gofyn i Ddysgwr B anfon llun(iau) o’i hun ato
- yn ystod neu o gwmpas 2022, ar fwy nag un achlysur, wedi cynnig fêps i un neu fwy o ddysgwyr eu defnyddio y tu allan i safle’r Ysgol
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd:
- fod y lluniau a/neu’r negeseuon a anfonwyd yn honiadau 2a, 2b, 3b, 3c, 3d uchod yn amhriodol, wedi torri ffiniau proffesiynol ac o natur orgyfeillgar
- bod ymddygiad Mr Davies a amlinellwyd yn honiadau 2a, 3b, 3c, 3d wedi’i ysgogi gan ryw
- bod ymddygiad Mr Davies a amlinellwyd yn honiadau 2a, 3b, 3c, 3d o natur rywiol
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Davies o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod amhenodol.
Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Davies wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Davies yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 10 Rhagfyr 2030, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Davies hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



