Shon Anthony Rowcliffe – 24 Medi 2026
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol 22-24 Medi 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol a weithiwr cymorth dysgu, Shon Rowcliffe.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra fod Mr Rowcliffe wedi ei gyflogi fel athro ysgol yn Ysgol Bro Preseli:
- Ar neu o gwmpas 11 Mai 2024, tra'n gyfrifol am un neu fwy o ddisgyblion ar drip ysgol a bod ym mhresenoldeb un neu fwy o ddisgyblion ar drip ysgol ei fod:
- o dan ddylanwad alcohol i'r fath raddau nad oedd yn briodol iddo fod â chyfrifoldeb dros un neuu fwy o ddisgyblion
- wedi bwrw a/neu slapio disgybl A ar draws eu brest
- ar un neu fwy achlysur wedi rhegi a defnyddio iaith anweddus
- wedi codi ei fys canol
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Mr Rowcliffe fel athro ysgol a gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 24 Medi 2026 a 24 Medi 2028). O'r herwydd ni fydd Mr Rowcliffe yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol a/neu gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Mr Rowcliffe yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.



