Janet Brackenbury – 16 Medi 2026
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 7 i 9 Gorffennaf 2026, 23 Gorffennaf 2026 ac 16 Medi 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes ysgol annibynnol, Janet Brackenbury.
Canfu’r Pwyllgor, rhwng mis Mai a mis Medi 2023, tra oedd yn cael ei chyflogi fel Athrawes Feithrin yn Ysgol Nant-y-Cwm Steiner, fod Ms Brackenbury:
- heb gefnogi’r Ysgol i gynnal ei chyfrifoldebau diogelu, yn yr ystyr:
- ar neu o gwmpas 1 Mehefin 2023, mewn neges e-bost at Dîm Diogelu Sir Benfro, eu bod wedi camliwio’r sefyllfa a/neu heb ddarparu’r holl wybodaeth ynglŷn â’r penderfyniad i wahardd Disgybl A o’r daith ysgol, yn yr ystyr eu bod wedi dweud “fel Tîm Rheoli, teimlwn fod yr ymateb yn anghymesur” a/neu fod Tîm Rheoli’r Ysgol eisiau cynorthwyo Disgybl A i fynd ar y daith, a oedd yn anghywir
- rhwng mis Mai a mis Medi 2023, eu bod wedi parhau i herio a/neu amau’r penderfyniad i wahardd Disgybl A o’r daith ysgol ar ôl iddo gael ei wneud a/neu ei gadarnhau
- heb gynnal perthynas broffesiynol a/neu barchus gydag un neu fwy o gydweithwyr, yn yr ystyr:
- ar neu o gwmpas 17 Mehefin 2023, mewn neges e-bost at yr Ysgol Golegaidd ynglŷn â’r pederfyniad i wahardd Disgybl A o’r daith ysgol, dywedasant fod “datrysiadau wedi’u cynnig i gynorthwyo [Cydweithiwr A] ar y daith, ond fe’u gwrthododd a llesteiriodd unrhyw bosibilrwydd o ddatrys y sefyllfa”
- ar neu o gwmpas 29 Gorffennaf 2023, eu bod wedi anfon neges e-bost at staff yr Ysgol yn datgan eu bod yn cytuno â neges e-bost gan Gydweithiwr C a oedd yn beirniadu Cydweithiwr A ynglŷn â’r penderfyniad i wahardd Disgybl A o’r daith ysgol, a bod ganddynt “fwy i ychwanegu” ati
- ar neu o gwmpas 19 Medi 2023, mewn neges e-bost at Gydweithiwr B, eu bod wedi datgan bod “[Cydweithiwr A] wedi llesteirio unrhyw ymdrechion rhesymol i geisio cynnwys [Disgybl A] ar y daith a bellach yn llesteirio fy ngallu i weithredu’n llawn”
Wrth wneud y canfyddiadau uchod, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Ms Brackenbury ym mharagraff 1(a) uchod yn anonest ac yn dangos diffyg unplygrwydd.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Brackenbury fel athrawes ysgol annibynnol am gyfnod o 2 flynedd (o 16 Medi 2026 tan 16 Medi 2028). Fel y cyfryw, bydd Ms Brackenbury yn gallu gweithio fel athrawes ysgol annibynnol mewn ysgol annibynnol yng Nghymru neu i ysgol annibynnol yng Nghymru ar hyd cyfnod y Cerydd.
Mae gan Ms Brackenbury hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



