Victoria Forward – 11 Mehefin
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2026
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi yng Nghanolfan Asesu’r Bont, fod Mrs Forward:
- ar neu o gwmpas 27 Ebrill 2022, wedi cwblhau cofrestr bresenoldeb y Ganolfan ar gyfer sesiwn y prynhawn gan ddatgan bod Disgybl A a Disgybl B yn bresennol yn y dosbarth pan nad oeddent
- ar neu o gwmpas 28 Ebrill 2022, wedi dweud wrth Reolwr y Ganolfan fod Disgybl A a Disgybl B wedi bod yn bresennol yn sesiwn y prynhawn ar 27 Ebrill 2022 pan nad oeddent
- ar neu o gwmpas 8 Medi 2023, wedi anfon Disgybl C adref o’r Ganolfan:
- heb roi gwybod i’w riant neu ofalwr
- heb roi gwybod i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Mrs Forward yn anonest ac yn dangos diffyg unplygrwydd.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mrs Forward o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol ac athrawes addysg bellach am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mrs Forward wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Mrs Forward yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 11 Mehefin 2028, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mrs Forward hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



