Claire Townsend – 17 Gorffennaf 2026
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 13, 14, 15, 16 a 17 Gorffennaf 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Claire Townsend.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi yn Ysgol Uwchradd Willows, bod Ms Townsend:
- rhwng oddeutu 16 Gorffennaf 2024 ac oddeutu 12 Awst 2024, heb gynnal ffiniau proffesiynol gyda disgyblion, yn yr ystyr:
- ar neu o gwmpas 16 Gorffennaf 2024, ei bod wedi rhoi ei rhif ffôn symudol personol i Ddisgybl A fel y gallai ychwanegu Ms Townsend at sgwrs grŵp WhatsApp a oedd yn cynnwys disgyblion (“y sgwrs grŵp”)
- ei bod wedi aros yn y sgwrs grŵp tan oddeutu 12 Awst 2024, sef ar ôl i’w rheswm honedig dros ymuno â’r sgwrs grŵp ddod i ben
- ei bod wedi anfon un neu fwy o negeseuon yn y sgwrs grŵp a orffennodd gyda “x” neu “xx”
- ei bod wedi anfon un neu fwy o negeseuon yn y sgwrs grŵp y tu allan i’r tymor a chyda’r nos
- wrth ymateb i neges gan ddisgybl a oedd yn dweud “Dwi’n cyffwrdd â fy hun”, ei bod wedi anfon neges yn dweud, “Dwi yma, bois, ond o ddifri’, dwi ddim yn mynd i gymryd unrhyw un o’ch negeseuon o chwith. Dwi’n gwybod mai dim ond cellwair ac ati ydyw … ac a bod yn onest [Enw wedi’i guddio’] mae’n rhaid i rywun ei wneud!”
- wrth ymateb i neges gan ddisgybl (a ddilëwyd ers hynny), ei bod wedi anfon neges yn dweud, “Dwi yma o hyd, bois!! A bod yn onest, dwi ddim yn deall 80% o beth ry’ch chi’n ei anfon, fydda’ i ddim yn cymryd unrhyw beth o chwith, felly ewch ymlaen fel rydych chi ac fe wylia i!!!!x”
- ei bod wedi rhannu gwybodaeth yn y sgwrs grŵp ynglŷn â symudiadau dosbarth pan oedd yn gwybod, neu y dylai fod wedi gwybod yn rhesymol, y dylai’r wybodaeth hon gael ei rhannu mewn modd sensitif a/neu gan y Pennaeth Blwyddyn neu’r Dirprwy Bennaeth
- ar ôl arsylwi negeseuon/cynnwys amhriodol a bostiwyd gan ddisgyblion i’r sgwrs grŵp, heb roi gwybod i Bennaeth yr Ysgol a/neu’r Arweinydd Diogelu Dynodedig:
- y bu’n rhan o sgwrs grŵp gyda disgyblion gan ddefnyddio ei rhif personol
- bod negeseuon amhriodol wedi cael eu rhannu gan ddisgyblion yn y sgwrs grŵp
- ar neu o gwmpas 16 Tachwedd 2023, yn ystod dosbarth addysg rhyw, wedi rhannu manylion am ei hanes personol pan nad oedd hynny’n briodol nac yn angenrheidiol
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Ms Townsend ym mharagraffau 1(a) i 1(f) a 2 uchod yn groes i Hyfforddiant Diogelu’r Ysgol a Pholisi Amddiffyn Plant yr Ysgol.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Townsend fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod o 2 flynedd (o 17 Gorffennaf 2026 tan 17 Gorffennaf 2028). Fel y cyfryw, bydd Ms Townsend yn gallu gweithio fel cofrestrai (gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru ar hyd cyfnod y cerydd.
Mae gan Ms Townsend hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



