Cwestiwn Parentkind: beth yw pryderon rhieni am effaith coronafeirws?
Pan gaeodd ysgolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i helpu arafu ymlediad Coronafeirws (Covid-19), roedd llawer o rieni’n teimlo amrediad o emosiynau. I ddechrau teimlwyd rhyddhad y bydden nhw a’u plant yn gallu hunanynysu a chadw at y cyfyngiadau cymdeithasol a argymhellwyd gan y llywodraeth i ni i gyd. Yma yn Parentkind roedden ni’n llwyr gefnogi cau ysgolion fel cam diogelu angenrheidiol, yn arbennig er mwyn diogelu staff addysgu yr oedd llawer iawn ohonynt eisoes i ffwrdd o’r ysgol oherwydd salwch cyn i’r penderfyniad i gau’r drysau gael ei wneud.
Ond gadawyd pryderon mawr ym meddyliau rhieni. Sut gallan nhw, yn arbennig y rhai hynny sy’n gweithio, ymdopi gartref pan fo angen darparu addysg i’w plant gartref o dan amodau cwarantîn? A beth am y posibilrwydd bod eu plentyn yn mynd i golli tymor academaidd llawn (neu fwy) o ddysgu? Beth am y disgyblion hynny mewn cohortau a oedd i fod i sefyll arholiadau yr haf yma? Sut orau gall rhieni gefnogi dysgu yn y cartref, ac a ydyn nhw’n hyderus i wneud hynny?
Mae’r adeg ddigynsail a hynod bryderus yma wedi peri llawer o heriau ac wedi gofyn i lawer iawn ohonon ni ymdrin â chwestiynau sylfaenol am fywyd teuluol, tywys plant drwy adeg o argyfrwng, a rôl rhieni mewn addysg.
Mae llawer o staff Parentkind yn rhieni ac wedi ymbalfalu gyda’r un cwestiynau. Er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r hyn mae rhieni’n mynd drwyddo yn ystod y pandemig hwn, cyhoeddon ni arolwg i’n dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol i fesur eu hymateb. Cawson ni ein calonogi bod bron i 700 o rieni (691 i gyd) wedi rhannu eu barn gyda ni mewn cwta pum diwrnod, gan gynrychioli 1181 o blant ysgol ar draws y tair gwlad rydyn ni’n gweithredu ynddyn nhw. Mae’r lefel hon o ymgysylltu’n dangos nerth teimladau rhieni. Mae’r canlyniadau wedi rhoi cipolwg i ni o brif bryderon rhieni yn ystod wythnos y cyhoeddiad bod ysgolion yn cau a phan ddaeth y negeseuon ehangach am ‘aros gartref’. Wrth gwrs, mae’r sefyllfa’n newid bob dydd, felly byddwn ni’n holi eto am ymatebion rhieni dros amser ac yn rhannu’r diweddaraf gyda chi. Ond yn y cyfnod cychwynnol ar ôl cyhoeddi cau’r ysgolion, dyma’r hyn a ddywedodd rhieni wrthyn ni:
Ystadegau allweddol
Ar raddfa o 1-10 (lle mae 1 yn golygu nad ydynt yn poeni o gwbl am effaith Coronafeirws ar addysg eu plentyn, a 10 yn golygu eu bod yn pryderu’n ddifrifol), nododd bron chwarter y rhieni (24%) 10/10. Y cyfartaledd ar draws yr holl rieni oedd 6.8/10. Yng Nghymru, y cyfartaledd oedd (6.4/10).
Rhai o brif bryderon rhieni am eu plentyn oedd:
- syrthio tu ôl neu golli allan ar eu dysgu
- canslo arholiadau
- diffyg cymdeithasu
- iechyd anwyliaid.
Rhai o brif bryderon rhieni amdanyn nhw eu hunain oedd:
- Ateb ymrwymiadau gwaith
- Goblygiadau ariannol
- Yr effaith ar iechyd meddwl a lefelau straen.
Dim ond un o bob deg rhiant (11%) a ddywedodd mai prin, neu ddim effaith y byddai’r argyfwng yn ei chael ar eu bywydau eu hunain tra bod lleiafrif bach (7%) wedi dweud y byddai cau ysgolion yn cael effaith gadarnhaol (gan nodi amser teuluol ac ailgysylltu â’u plant). Roedd llai nag un o bob pum rhiant (19%) yn teimlo’n hyderus iawn i gefnogi dysgu eu plentyn gartref.
Beth arall ddangosodd ein hymchwil?
Ateb ymrwymiadau gwaith yw prif bryder rhieni am eu dyfodol eu hunain. Pan ofynnwyd am yr effaith y gallai cau ysgolion ei chael ar rieni, yn hytrach na’u plant, soniodd bron hanner y rhieni (49%) am eu gwaith. Roedd hynny mewn perthynas â gorfod cydbwyso gweithio tra’n gofalu am blant, ond roedd pryderon ariannol ac ofni colli eu swyddi hefyd yn themâu cyffredin a nodwyd wrth i bobl roi adborth mewn gofod testun rhydd.
Fodd bynnag, ar yr ochr bositif:
Roedd cyfathrebu rhwng ysgolion a’r cartref wedi bod yn wych. Unwaith iddynt gau, roedd 93% o rieni wedi dweud bod ysgol eu plentyn wedi rhannu manylion trefniadau ar gyfer dysgu gartref yn ystod yr adeg pan fyddai’r ysgolion ar gau. 7% a ddywedodd nad oedd hyn wedi digwydd. O’r 7% hynny, mae’n bosibl bod eu hysgol wedi darparu manylion yn fuan ar ôl iddyn nhw gwblhau ein harolwg.
Am fanylion pellach, gweler dogfen lawn yr Adroddiad Arolwg Rhieni am gau ysgolion a Choronafeirws (Saesneg yn unig).
Byddwn yn monitro barn rhieni’n agos wrth i addysgu plant gartref, hunanynysu, cyfyngiadau cymdeithasol a gweithio gartref (i lawer) ddod yn fwy o arfer cyffredin, a chadwn ni lygad ar y ffordd mae barn rhieni’n newid, os bydd yn newid. Chwiliwch am ddiweddariadau a gwybodaeth bellach yn Parentkind.
Tracey Handley
Tracey Handley yw Pennaeth Parentkind yng Nghymru lle mae hi'n arwain ar ddatblygiad polisi, ymgyrchoedd ac ymchwil.




Mae hyrwyddo ymgysylltiad rhwng busnes a’r sector addysg yn fwy na rhywbeth braf i’w wneud. Mae’n flaenoriaeth hollbwysig os ydym am wireddu potensial llawn economi Cymru. Mae busnesau’n dweud wrthym bob dydd mai mynediad at bobl a sgiliau yw un o’u pryderon mwyaf, felly mae datblygu cronfa o dalent ar gyfer y dyfodol yn bwysicach nag erioed.
Dwi wedi bod yn Brifathro yng Nghymru am bron i 20 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw dwi wedi gweld, yn eu tro, 5 Gweinidog Addysg gwahanol, sef Jane Davidson, Jane Hutt AC, Leighton Andrews, Huw Lewis a Kirsty Williams AC. Er bod yna lawer wedi newid o fewn addysg yng Nghymru yn ystod y cyfnod yma gyda chyflwyniad y Cyfnod Sylfaen, Bagloriaeth Cymru, diddymu TASau a Phrofion Cenedlaethol i enwi ond ychydig o’r mentrau sydd wedi eu cyflwyno ers datganoli, nid oes llawer iawn wedi digwydd i ddatblygu a chefnogi arweinyddiaeth yng Nghymru... hyd yma.