Llyr James - 28 Ionawr 2026
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 27 a 28 Ionawr 2026, wedi canfod bod honiadau o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ a ‘throsedd berthnasol’ wedi’u profi yn erbyn yr athro ysgol, Mr Llyr James.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Mr James:
- ar 8 Hydref 2024, wedi cael ei euogfarnu yn Llys Ynadon Sir Gaerfyrddin o drosedd Curo ar 9 Mawrth 2024, yn groes i adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988. O ganlyniad i’r drosedd hon, ar 25 Hydref 2024, dedfrydwyd Mr James i orchymyn cymunedol gyda gofyniad i wneud gwaith di-dâl a gweithgarwch adsefydlu
- heb roi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg y cafodd ei euogfarnu o drosedd Curo ar 8 Hydref 2024
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr James o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori athro ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr James wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Mr James yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 28 Ionawr 2028, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr James hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



