Kellie Kabza – 26 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 24 i 26 Mawrth 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y Gweithiwr Cymorth Dysgu mewn Ysgol, Kellie Kabza.
Canfu’r Pwyllgor fod yr honiadau canlynol wedi’u profi:
- Ei bod wedi gwneud datganiadau a oedd yn anghywir a/neu’n gamarweiniol, gan gynnwys:
- ar neu o gwmpas 20 Ionawr 2023, dywedodd wrth Gydweithiwr A ei bod wedi rhoi gwybod i’r holl staff perthnasol am ddiweddariad i drefniadau diogelu Disgybl 1 a Disgybl 2, er nad oedd wedi gwneud hynny, mewn gwirionedd
- ar neu o gwmpas 17 Ebrill 2023, dywedodd wrth Gydweithiwr A nad oedd difrod i fws mini yr oedd wedi’i yrru wrth ei ddychwelyd, er ei bod wedi difrodi’r bws mini, mewn gwirionedd
- ar neu o gwmpas 20 Ebrill 2023 a 28 Ebrill 2023, dywedodd wrth Gydweithiwr A eich bod wedi tynnu lluniau o ginio Disgybl 11, er nad oedd wedi gwneud hynny, mewn gwirionedd
- ar neu o gwmpas 28 Ebrill 2023, dywedodd wrth Gydweithiwr A nad oedd yn cofio sut y difrodwyd y bws mini, er yr oedd yn gwybod mewn gwirionedd mai hi oedd wedi difrodi’r bws mini
- ar neu o gwmpas 2 Mai 2023, dywedodd wrth Gydweithiwr A ei bod wedi gwirio’r ffeiliau diogelu ar gyfer Disgyblion 8 a 9, er nad oedd wedi gwneud hynny, mewn gwirionedd
- ar neu o gwmpas 20 Ionawr 2023, nid oedd wedi rhoi gwybod i gynorthwy-ydd addysgu am drefniadau diogelu Disgybl 3, yn yr ystyr nad oedd wedi dweud na ddylai Disgybl 3 gael ei gasglu gan ei fam yn unig
- ar neu o gwmpas 13 Chwefror 2023, nid oedd wedi cymryd camau dilynol ynglŷn â threfniadau diogelu Disgybl 3, yn yr ystyr nad oedd wedi cadarnhau bod mam-gu’r plentyn yn bresennol ar yr adeg casglu o’r ysgol
- ar neu o gwmpas 30 Mawrth 2023, ei bod wedi anfon Disgybl 4 a Disgybl 5 adref pan allent fod wedi cael eu goruchwylio yn yr Ysgol gan aelod arall o staff
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer nad oedd Mrs Kabza wedi dangos ystyriaeth ddigonol o bwysigrwydd lles disgyblion a diogelu mewn perthynas â honiadau 1(a), 1(f), 2, 3, a 4.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer hefyd fod Mrs Kabza yn anonest ac wedi dangos diffyg unplygrwydd o ran honiad 1(a), 1(b), (c), 1(e) ac 1(f).
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd Dros Dro (heb amodau) ar gofrestriad Mrs Kabza fel Gweithiwr Cymorth Dysgu mewn Ysgol, am gyfnod o 17 mis (o 26 Mawrth 2026 tan 26 Awst 2027). Fel y cyfryw, ni fydd Mrs Kabza yn gallu gweithio fel Gweithiwr Cymorth Dysgu mewn Ysgol mewn ysgol a gynhelir nac ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru yn ystod cyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Mrs Kabza hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



