Mae’r broses adnewyddu cofrestru ar gyfer 2026-27 bellach wedi’i chwblhau

Felly, dyma’r amser perffaith i fewngofnodi a chadarnhau bod y manylion yn eich cofnod yn gyfredol. Rhai munudau yn unig y bydd yn ei gymryd.

Eich PDP

Ydych chi wedi edrych ar y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)? Mae'n llawn nodweddion sydd wedi eu creu i'ch cefnogi chi i gipio, myfyrio ar, rhannu a chynllunio eich dysgu, gyda'r amcan o wella eich arfer

Defnyddio eich Cymraeg gyda ni

Gallwch gysylltu â ni trwy un o’n dulliau niferus yn Gymraeg neu Saesneg. Pa iaith bynnag y byddwch yn ei dewis, ni fydd yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar yr ymateb a gewch.

Newyddion

Ymateb CGA i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru

Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru, gan groesawu ei huchelgais i greu system...

CGA yn cyhoeddi ymateb i ymgynghoriad Siarad gyda Fi – Cam 2 Llywodraeth Cymru

Rydym wedi cyflwyno ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Siarad gyda fi - Cam 2: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu 2026...

CGA yn amlinellu ei gynlluniau at y dyfodol

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Strategol 2026-29 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 wedi ei adnewyddu, gan osod ein blaenoriaethau a'i...

Cofrestru yn agor ar gyfer Dosbarth Meistr 2026 CGA: Llesiant mewn munudau nid misoedd

Eleni, bydd Dosbarth Meistr CGA yn croesawu Jon Bockelmann-Evans, siaradwr ysbrydoledig ac arbenigwr ar lesiant, iechyd emosiynol, a rheoli heriau...

CGA yn cyhoeddi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer diwrnodau HMS

Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i ffurfioli darparu chwe diwrnod hyfforddiant mewn swydd (HMS) y...

Ein barn wrth ymateb i’r ymgynghoriad ar y safonau proffesiynol diwygiedig

Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac...

Croeso cynnes i’n Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol newydd

Mae Christine Hellings wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol newydd CGA. Daw Christine â chyfoeth o brofiad ar lefel uwch...

Lansio ymgynghoriad ar ein Cynllun Strategol drafft 2026–29

Rydym wedi lansio ymgynghoriad strategol ar ein Cynllun Strategol drafft ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2026 a Mawrth 2029. Mae’r Cynllun Strategol...

Ymateb CGA i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar recriwtio a dargadw athrawon yng Nghymru

Rydym yn croesawu cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar recriwtio a dargadw athrawon yng Nghymru , sy'n amlygu'r...

Dewch â’ch safbwynt i reoleiddio addysg yng Nghymru

Mae recriwtio wedi agor ar gyfer aelodau newydd i’n Cyngor. Rydym ni’n rheoleiddio gweithlu mawr ac amrywiol sy’n gwasanaethu dysgwyr a phobl ifanc,...

Adroddiad newydd yn amlygu cynnydd CGA ar fioamrywiaeth a chyfrifoldebau amgylcheddol

Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau, ar gyfer 1 Ionawr 2023 hyd 31 Rhagfyr 2025. Mae'r adroddiad yn nodi sut...

Cofrestru nawr ar agor ar gyfer Siarad yn Broffesiynol 2026: Archwilio ymddygiad dysgwyr a grym gweithgaredd corfforol

Ddydd Mercher 21 Ionawr 2026, 16:00-17:30, ar-lein, bydd Siarad yn Broffesiynol 2026 yn cynnwys yr Athro Kelly Mackintosh o Brifysgol Abertawe fel y...

CGA yn lansio animeiddiad newydd i hyrwyddo’r PDP i sefydliadau

Rydym wedi lansio animeiddiad newydd i helpu sefydliadau ledled Cymru i archwilio buddion y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Lluniwyd yr...

Croeso i Gadeirydd y Cyngor sydd newydd ei ethol

Rydym yn falch o rannu bod Geraint Williams wedi cael ei ethol yn Gadeirydd newydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Etholwyd Geraint, a ymunodd â’r...

Ymateb CGA i adolygiad ymarfer plant Neil Foden

Rydym yn cymeradwyo awduron yr adolygiad annibynnol am eu gwaith trylwyr ac ystyrlon. Rydym yn arbennig yn cydnabod dewrder a chryfder y rheiny...

Penodi Lisa Winstone yn Brif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg

Gallwn gadarnhau bod Lisa Winstone wedi ei phenodi fel ein Prif Weithredwr newydd. Mae Lisa'n dod i'r rôl yn swyddogol yn dilyn cyfnod fel Prif...

CGA yn cyhoeddi canllaw newydd i gefnogi lles dysgwyr

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi canllaw arfer da newydd gyda'r bwriad o helpu cefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc....

Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn derbyn gwobr aur

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi cael Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) aur. Cyllidir y Marc Ansawdd gan Lywodraeth Cymru, ac fe'i...

Cod Ymddygiad wedi ei ddiweddaru ar gyfer gweithlu addysg Cymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi ei ddiweddaru heddiw (1 Medi 2025), gan osod y safonau,...

CGA yn llongyfarch athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi estyn eu llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn eu Statws Athro Cymwysedig (SAC) yng Nghymru heddiw (1 Awst...

Ystadegau diweddaraf CGA yn rhoi darlun cynhwysfawr o weithlu addysg Cymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2025, ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr y rheoleiddir...

CGA yn rhannu gwybodaeth allweddol am recriwtio a chadw athrawon

Darparodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i recriwtio a...

CGA yn dathlu blwyddyn arall o gynnydd yn ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Heddiw (15 Gorffennaf 2025), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei gyfres o adroddiadau blynyddol, gan gynnwys ei Adroddiad Blynyddol...

Dathlu derbynwyr newydd y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid a derbynwyr sy’n cael eu hailachredu

Mae tri sefydliad arall ar draws Cymru wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol am ansawdd eu darpariaeth, gan ennill y Marc Ansawdd clodwiw ar gyfer...

Enwi Prif Weithredwr Dros Dro CGA

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi bod Lisa Winstone wedi cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Dros Dro arno. Bydd Lisa yn ymgymryd â’r...

Dathlu rôl hanfodol gwaith ieuenctid yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cefnogi effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru unwaith eto, drwy gymryd rhan yn Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni....

CGA yn amlygu gwelliannau ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd y Byd

I nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd y Byd (15 Mai), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn amlygu'r ffordd y mae'n gweithio i wneud eu...

CGA ar daith i brif ddigwyddiadau Cymru

Yr haf hwn, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn mynychu cyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol blaenllaw ar hyd a lled Cymru i siarad â’i...

Hayden Llewellyn yn cyhoeddi ei ymddeoliad fel Prif Weithredwr CGA

Mae Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), Hayden Llewellyn, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad ar ôl chwarter canrif o wasanaeth. Ymunodd Hayden...

CGA yn amlinellu ei weledigaeth at y dyfodol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol 2025-28 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 wedi ei adnewyddu, gan osod...

Hazel HaggerDysgu a datblygiad proffesiynol athrawon

Rydym mewn cyfnod sy’n cynnig cyfle digynsail. I athrawon, i addysg athrawon, ac i ysgolion, cymerir diwygio yn ganiataol. Ac mae’r newidiadau yn gynhwysfawr ac yn radical. A fyddwch chi’n dewis bod yn rhan o arwain y newid hwnnw? Neu ai gwylio ar yr ymylon fyddwch chi?

Mae’r gymuned addysg yng Nghymru wrthi’n mynd trwy gyfnod o chwyldro sydd, yng ngeiriau’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS yn ‘ddigywilydd o uchelgeisiol’. Mae tair nodwedd amlwg wrth galon y mudiad diwygio cenedlaethol hwn:

  • bod y pwyslais pennaf ar ddysgwyr a dysgu;
  • cydlyniant y diwygiadau ar draws ysgolion ac Addysg Gychwynnol i Athrawon; a
  • chydnabod mai’r cysyniad newydd o broffesiynoliaeth athrawon wedi’i gwreiddio yn y diwygiadau yw’r allwedd i gyflawni’r glasbrint.

Er mwyn i’r diwygiadau lwyddo, bydd angen athrawon ar Gymru sy’n dra chymwys ac sydd hefyd yn ddysgwyr, yn arloeswyr, yn ddylunwyr cwricwlwm ac yn ddeallusion sy’n ymgysylltu â gwaith ysgolheigaidd. Mae’r diwygiadau’n newid beth mae’n ei olygu i fod yn athro proffesiynol.

Ar yr un pryd, mae athrawon dan hyfforddiant ar y rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) sydd newydd eu hachredu yn cael eu paratoi i goleddu’r diwygiadau addysgol a datblygu i fod y gweithwyr proffesiynol hyblyg, ymaddasol ac arloesol sydd eu hangen ar y diwygiadau. Ac ochr yn ochr â nhw mewn ysgolion, ceir athrawon sy’n gweithio i fodloni heriau’r fframweithiau cwricwlwm newydd. Mae’r synergedd hwn rhwng diwygio ysgolion a diwygio AGA yn meithrin cydweithio a chyfnewid gwybodaeth, ac mae’n golygu bod y rôl addysgu mewn ysgolion ac Ysgolion Addysg yn cael ei dyrchafu o fod yn weithredwr i fod yn strategydd.

Mae’r weledigaeth dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd â’r system addysg ddatblygol yng Nghymru yn cael ei hysgogi gan y gred y gall pob athro wella’i ymarfer ac y gall pob plentyn ffynnu. Mae gweld athrawon fel dysgwyr proffesiynol gydol oes "sy’n myfyrio ar eu hymarfer eu hunain a’i wella er mwyn cymell ac ysbrydoli’r bobl ifanc yn eu gofal' yn sail i’r 'Dull Gweithredu Cenedlaethol mewn perthynas â Dysgu Proffesiynol"1 .

Mae’r sylfaen ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa wedi’i sefydlu mewn AGA. Nid yn unig y mae angen i athrawon dan hyfforddiant gaffael y wybodaeth, y sgiliau a’r dealltwriaethau a fydd yn eu galluogi i fynd i mewn i’r proffesiwn fel ymarferwyr cymwys, ond mae angen yr hyder, yr ymrwymiad, yr arbenigedd dadansoddol a’r arferion angenrheidiol arnynt hefyd ar gyfer archwilio’u hymarfer datblygol a’u meddwl addysgegol trwy gydol eu gyrfaoedd. Un o’r heriau lu sy’n wynebu tiwtoriaid prifysgol ac athrawon sy’n gweithio gydag athrawon dan hyfforddiant yw dylunio cwricwla sy’n bodloni’r ddau nod hyn. Ni all AGA baratoi athrawon newydd ar gyfer bob her y maent yn debygol o’i hwynebu, ond gall eu paratoi nhw i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes, effeithiol.

Mae’r flwyddyn gyntaf yn addysgu yn gam unigryw mewn dysgu sut i addysgu, ac ni ellir diystyru pwysigrwydd cymdeithasoli proffesiynol yn y lleoliad gwaith a’r proffesiwn. Mae’n llawn mor bwysig, fodd bynnag, fod y flwyddyn ymsefydlu, gan adeiladu ar y sylfeini a osodwyd mewn AGA, yn cael ei gweld fel rhan o gontinwwm dysgu a datblygu ehangach. Mae’n rhaid i athrawon newydd addysgu, ond mae’n rhaid iddynt barhau i ddysgu sut i addysgu hefyd. Mae’n hanfodol, felly, eu bod yn cael eu gweld a’u parchu gan gydweithwyr fel dysgwyr, ond mae hyn yn annhebygol o ddigwydd os nad yw athrawon sefydledig yn gweld bod ganddynt hwythau fwy i’w ddysgu. I athrawon newydd fod yn hyderus fel dysgwyr mewn ysgol, mae angen iddynt deimlo eu bod yn mynd i mewn i gymuned o ddysgwyr lle mae’n beth cyffredin i ymarfer gael ei ddadansoddi, i broblemau gael eu rhannu ac i athrawon fod â’r ddawn i ddysgu o ddadansoddiad beirniadol o’u hymarfer a’u meddwl eu hunain a’u cydweithwyr. Ni all dysgu proffesiynol ffynnu mewn sefydliad lle gwelir dysgu ac addysgu yn yr ystafell ddosbarth fel ymarfer preifat. Y cyfle yma yw i fwy o ysgolion gael mwy o’u hathrawon i ymgysylltu’n weithredol mewn AGA ac Ymsefydlu - a diddymu’r rhwystrau rhag cyfranogi’n agored a dysgu cydweithredol.

Mae ymgysylltiad athrawon ag AGA yn amlwg yn bwysig oherwydd y cyfraniad nodedig y gall athrawon ei wneud at ddysgu athrawon dan hyfforddiant. Yr hyn sy’n cael ei ddiystyru’n hawdd, fodd bynnag, yw’r llu o gyfleoedd ar gyfer eu dysgu proffesiynol eu hunain y mae cyfranogi’n feddylgar ac yn ymroddedig mewn AGA yn eu cynnig i athrawon sefydledig. Yn aml, mae mentoriaid ac athrawon eraill yn gweld eu hunain yn egluro’u harferion i athrawon dan hyfforddiant – y ‘pam’ yn ogystal â’r ‘beth’ a’r ‘sut’ – sy’n golygu bod rhaid iddynt feddwl am sut maent yn mynd i’r afael â phethau yn yr ystafell ddosbarth, a gall hynny yn ei dro arwain athrawon at ddealltwriaethau newydd o’r hyn maent yn ei wneud, a darparu ysgogiad go iawn neu lwyfan ar gyfer dysgu proffesiynol. Mewn addysg, rydym yn sôn llawer am ymarfer myfyriol – ac i athro profiadol, mae gwybodaeth am ei ragdybiaethau, ei gredoau a damcaniaethau dealledig yn rhagofyniad angenrheidiol ar gyfer myfyrio beirniadol a thwf proffesiynol. Yn ogystal, fel partneriaid llawn mewn AGA, gan weithio’n agos gyda’r brifysgol i ddylunio a chyflwyno rhaglenni a chynnal ymchwil proffesiynol ar y cyd, caiff athrawon eu hannog nid yn unig i archwilio’u harferion presennol yn feirniadol a rhai’r ysgol, ond i ystyried arferion amgen hefyd.

Mae annog a galluogi pobl ifanc i ddatblygu ymwybyddiaeth o’u dysgu, a bod mewn sefyllfa drwy hynny i gymryd cyfrifoldeb amdano, yn cael ei ystyried yn fanteisiol i’w datblygiad fel dysgwyr ac i’r dysgu ei hun. O ran dysgu proffesiynol, byddwn i’n awgrymu, ar adeg pan na fu datblygiad athrawon erioed mor bwysig, bod pob athro – o athrawon dan hyfforddiant i ymarferwyr sefydledig – yn cael y cyfle i archwilio a thrafod syniadau’n feirniadol o ddaw o ymchwil ac ymarfer yn ymwneud â natur, caffael a datblygu arbenigedd addysgu, fel y gallant hwythau hefyd gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu.


 1  Llywodraeth Cymru (2017), Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl tud.23

 

Dr Hazel Hagger

A hithau’n gyn Gyfarwyddwr Rhaglenni Proffesiynol ym Mhrifysgol Rhydychen, penodwyd Dr Hazel Hagger yn Gadeirydd Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon CGA yr haf diwethaf. Bu’n addysgu Saesneg am flynyddoedd lawer cyn ymuno â Phrifysgol Rhydychen. Bu ei hymchwil ddoethurol yn canolbwyntio ar ffyrdd o wneud arbenigedd athrawon wrth eu gwaith yn hygyrch i ddechreuwyr ac mae hi wedi ysgrifennu’n helaeth ar ddysgu a datblygiad athrawon.

 Fel cofrestrai CGA mae gennych fynediad i'r Pasbort Dysgu Proffesiynol,  offeryn ar-lein am ddim i’ch cynorthwyo i gofnodi’ch dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod yn y pen draw o wella’ch ymarfer. Rhowch gychwyn ar y PLP