Mark Christopher Robertson – 15 Rhagfyr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 24-25 Mawrth, 20-24 Hydref ac 15 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach, Mark Christopher Robertson.
Canfu'r Pwyllgor bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Athro AB yng Ngholeg Cambria, bod Mr Robertson, rhwng 2022 a 2023:
- wedi anfon un neu fwy o negeseuon i Ddysgwr 1 dros Instagram, oedd yn amhriodol, a/neu wedi torri ffiniau proffesiynol
- wedi anfon neges(euon) i Ddysgwr 1 dros Instagram, pan oeddent wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig yn 2019 am gysylltu gyda dysgwr mewn modd amhriodol ac amhroffesiynol
- ar un neu fwy achlysur, fe wnaethant dynnu a/neu gyffwrdd â gwallt Dysgwr 1, a ganfuwyd i fod yn amhriodol a/neu wedi torri ffiniau proffesiynol
- ar un neu fwy achlysur, wedi cofleidio Dysgwr 1, a ganfuwyd i fod yn amhriodol, a/neu wedi torri ffiniau proffesiynol
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Robertson fel athro ysgol addysg bellach am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 15 Rhagfyr 2025 a 15 Rhagfyr 2027). O'r herwydd, bydd Mr Robertson yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru, am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Robertson yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.



