Richard Alaw Williams - 18 Tachwedd 2025
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 17 ac 18 Tachwedd 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Richard Alaw Williams.
Canfu'r Pwyllgor bod Mr Williams:
- rhwng Mai 2023 a Chwefror 2024, yn gyson heb fodloni disgwyliadau, a/neu wneud gwelliannau boddhaol a/neu dderbyniol o ran un neu fwy o agweddau o'u gwaith fel athro ysgol ac arweinydd rhifedd, yn benodol:
- cynllunio gwersi ieithoedd a/neu fathemateg
- sicrhau gwahaniaethiad priodol mewn gwersi
- defnydd effeithiol o egwyddorion Asesu ar gyfer Dysgu a/neu feini prawf a/neu amcanion dysgu
- sicrhau ymgysylltu'r disgyblion mewn gwersi
- sicrhau bod disgyblion yn cwblhau tasgau mewn gwersi
- sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd digonol a/neu'n cael sgiliau sylfaenol
- marcio gwaith disgyblion a/neu roi adborth
- rhwng Mai 2023 a Chwefror 2024, yn gyson heb fodloni disgwyliadau, a/neu wneud gwelliannau boddhaol a/neu dderbyniol o ran un neu fwy o agweddau o'u gwaith fel arweinydd rhifedd, yn benodol:
- cynllunio ar gyfer darpariaeth rhifedd a/neu gynnwys cwricwlwm ar draws yr ysgol
- monitro cynnydd a gwelliant o fewn rhifedd yn yr ysgol
- nodi'n glir a/neu gyfathrebu targedau a/neu gamau gweithredu o'u fonitro rhifedd yn yr ysgol
- paratoi a/neu gyflwyno adroddiadau o ran darpariaeth rhifedd yn yr ysgol
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Mr Williams fel athro ysgol am gyfnod o 6 mis (rhwng 18 Tachwedd hyd 18 Mai 2026). O'r herwydd ni fydd Mr Williams yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Mr Williams yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.



