Diogelu’r proffesiwn a'r cyhoedd
Rheolau cofrestru
Dros y blynyddoedd diwethaf, ry'n ni wedi gwneud newidiadau i'r rheolau cofrestru, yn bennaf i ddangos ychwanegu categorïau cofrestru.
Yn ddiweddar, rydym wedi adolygu'r rheolau fel cyfanwaith, oedd yn cynnwys adolygu'r weithdrefn Gorchymyn Atal Dros Dro Interim (ISO), a chyflwyno gweithdrefn llwybr carlam mewn rhai amgylchiadau.
Byddwn yn ymgynghori ar y newidiadau hyn o 1 Rhagfyr, felly cadwch lygad allan i gael cyfle i ddweud eich dweud.
Lansio animeiddiad priodoldeb i ymarfer newydd ar gyfer tystion
Mae'r animeiddiad newydd yn helpu tystion i ddeall y broses priodoldeb i ymarfer yn well. Mae cyflogwyr yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi staff sy'n rhan o'r gweithrediadau hyn. Gall rhannu'r animeiddiad yma eu helpu i fod yn fwy parod, a gwybod beth i'w ddisgwyl.
Yw eich staff wedi eu cofrestru yn y categorïau cywir?
Os ydych yn cyflogi staff sydd i fod wedi eu cofrestru gyda ni, mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich staff wedi cofrestru yn y categori cywir ar gyfer y gwaith maen nhw'n ei wneud Gallwch wirio hyn drwy ddefnyddio eich mynediad i'r Gofrestr ar-lein.
Golwg person ifanc ar CGA
Yn gynharach eleni, fe wnaethom groesawu’r person ifanc, Logan Jones i CGA. Roedd Logan yn awyddus i ddysgu mwy am rôl CGA a pham bod cofrestru'n bwysig, felly fe wnaeth gyfweld â'n Prif Weithredwr, Lisa Winstone.
O ofyn beth mae CGA yn ei wneud, i ganfod pam ddylai pobl ifanc fod yn ymwybodol o'r sefydliad, roedd Logan yn llawn chwilfrydedd, brwdfrydedd, a digonedd o gwestiynau.
Da iawn, a diolch yn fawr i Logan am greu'r fideo gwych yma.
Diweddariadau'r Cyngor
Cyfres o adroddiadau blynyddol
Ym mis Gorffennaf fe wnaethom gyhoeddi cyfres o adroddiadau blynyddol, gan gynnwys ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2026. Mae'r gyfres lawn o adroddiadau bellach ar gael ar wefan CGA.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Ein gwasanaethau i gofrestreion
Mae gyda ni nifer o wasanaethau ar gyfer cofrestreion. Mae'r rhain yn cefnogi cofrestreion mewn gwahanol ffyrdd a sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, felly cofiwch ei rannu gyda'ch cydweithwyr a'ch staff.
Rydym wastad yma i helpu, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Diweddariad ar ddarparu'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynnu trosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarparu'r PDP i Dysgu o fis Medi 2028. Yn y cyfamser, mae CGA wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bawb. Mae mwy o wybodaeth am y PDP a beth gall wneud ar gyfer eich sefydliad, ar gael yn ardal datblygiad proffesiynol ein gwefan. Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am drosglwyddo'r PDP, cysylltwch â
Blwyddyn Genedlaethol Darllen 2026
Mae gan wefan Llywodraeth Cymru nifer o adnoddau defnyddio i'ch cefnogi gyda'ch darllen.
Mae gyda ni hefyd Meddwl Mawr, ein clwb llyfrau misol, lle'r ydym yn argymell llyfrau neu newyddiaduron i'ch cefnogi yn eu gwaith.
Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Llongyfarchiadau i STAND Gogledd Cymru sydd wedi derbyn eu Marc Ansawdd efydd cyntaf. Hefyd i Wasanaeth Ieuenctid Sir Penfro, sydd wedi adnewyddu eu Marc Ansawdd arian, a Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy sydd wedi adnewyddu eu Marc Ansawdd efydd. Llongyfarchiadau bawb.
Os hoffwch fwy o wybodaeth am y MAGI, ewch i'r wefan.
Hysbysu polisi
Cyfleoedd, heriau ac ymatebion polisi: Cymraeg a’r gweithlu addysg
Ymunwch a ni ar 10 Tachwedd, 10:30-12:30, am ddigwyddiad rhithiol yn archwilio prif bynciau o ran y Gymraeg yn y gweithlu addysgu.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfraniadau gan Lywodraeth Cymru, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ynghyd â thrafodaeth banel sy’n cynnwys unigolion ag arbenigedd ym maes addysg a’r Gymraeg o amrywiol sectorau.
Os hoffech ennill dealltwriaeth fanylach o themâu presennol sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg o fewn y gweithlu addysg, yr heriau sydd i ddod, a’r camau y mae eu hangen i ddatblygu sgiliau a chapasiti Cymraeg ar draws y gweithlu, mae’r digwyddiad hwn i chi.
Darllen mwy am y digwyddiad a chadw eich tocyn am ddim.
Oes gyda chi adborth ar y dudalen yma?
