Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd
Adnewyddu ffioedd
Os ydych wedi derbyn eich hysbysiad i adnewyddu eich cofrestriad gallwch dalu nawr ar y wefan. Mae gyda chi nes 1 Ebrill 2026 i adnewyddu.
Os ydych wedi eich cyflogi ar gontract yng Nghymru, bydd eich cyflogwr yn cymryd eich ffi ym mis Mawrth. Gwiriwch eich slip cyflog unwaith i chi gael eich cyflog fis Mawrth.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, gallwch
Astudiaeth Priodoldeb i Ymarfer: ffiniau proffesiynol
Gall cyswllt corfforol fod yn angenrheidiol weithiau, ond mae'n rhaid iddo fod yn briodol a chymesur bob tro. Yn ein hastudiaeth achos diweddaraf, rydym yn edrych ar esiampl lle cafodd cofrestrai eu gwahardd yn dilyn cyswllt corfforol amhriodol gyda dysgwr, ac yn cynnig gwersi ymarferol y dylech eu dysgu o hyn.
Ydych chi wedi edrych ar eich cofnod yn ddiweddar?
Mae'n bwysig iawn eich bod yn cadw eich manylion ar y gofrestr yn gyfredol. Gallwch weld a diweddaru eich cofnod unrhyw bryd gan ddefnyddio eich mynediad 24/7 i'ch cyfrif FyCGA.
Diweddariadau'r Cyngor
Recriwtio ar agor ar gyfer aelodau newydd i'n Cyngor
Rydym yn rheoleiddio gweithlu mawr ac amrywiol sy'n gwasanaethu dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a chymunedau ledled Cymru. I wneud y rôl yma yn effeithiol, mae'n bwysig bod ein Cyngor yn buddio o ystod eang o safbwyntiau a phrofiadau. Mae'r rôl yn galw am feddwl annibynnol, cyfraniad cadarnhaol at drafodaethau strategol, hygrededd, ac ymrwymiad cryf at gydraddoldeb, cynhwysiant, a'r Gymraeg. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Mae ceisiadau'n cau am 16:00 ar 18 Chwefror.
Ceisio barn ar ein Cynllun Strategol ar gyfer 2026-29.
Mae'r Cynllun Strategol drafft yn gosod ein blaenoriaethau am y tair blynedd nesaf, ac mae pedwar amcan allweddol yn sylfaen iddo. Mae'n gosod sut yr ydym yn bwriadu cyflawni ein swyddogaethau statudol craidd.
Rydym yn awyddus i glywed gan nifer o unigolion, gan gynnwys y rheiny o gefndiroedd amrywiol, rhieni/gwarcheidwaid, a phartneriaid o bob cwr o'r byd addysg a rheoleiddio.
Gallwch ddarllen ein y cynllun drafft, ac ymateb iddo, ar ein gwefan. Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben am 12:00 ddydd Gwener 13 Mawrth 2026.
Cyfarfod nesaf y Cyngor
Bydd cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal yn swyddfeydd CGA, ddydd Iau 19 Mawrth. Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd ddod i arsylwi. Mae gwybodaeth am gyfarfodydd y gorffennol, a gallwch gofrestru eich diddordeb mewn arsylwi ar ein tudalen cyfarfodydd y Cyngor.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Cofiwch am eich PDP
Mae eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), yn fan cyfrinachol, diogel i'ch helpu i gipio, myfyrio ar, rhannu, a chynllunio eich dysgu.
Mae gyda chi trwy gydol eich gyrfa, ble bynnag yr ydych yn gweithio, gan gefnogi eich datblygiad a'ch ymarfer ar bob cam o'ch siwrnai ddysgu proffesiynol.
Gallwch fewngofnodi i'ch PDP drwy eich cyfrif FyCGA. Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, neu heb ei ddefnyddio'r ddiweddar,
MAGI
Llongyfarchiadau i Wasanaeth Ieuenctid Torfaen wnaeth adnewyddu eu Marc Ansawdd efydd yn ddiweddar.
Mae'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn wobr ar gyfer sefydliadau ieuenctid sy'n cydnabod gwella safonau a dathlu rhagoriaeth o ran darpariaeth gwaith ieuenctid. Ewch i'r wefan i ddysgu mwy am MAGI.
Hysbysu polisi
Recriwtio a dargadw: tueddiadau, heriau a llwybrau polisi
Ym mis Tachwedd, fe wnaethom groesawu panel o arbenigwyr addysg i rannu eu barn unigryw a gonest ar recriwtio a dargadw yng Nghymru, ynghyd â'n data a'n hymchwil polisi ni. Cafodd y digwyddiad ei recordio, ac mae bellach ar gael ar ein sianel YouTube i chi wylio yn ôl.
Ymateb i ymgynghoriad
Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu, Addysgu ac Arweinyddiaeth.
Rhag ofn i chi ei fethu
Siarad yn Broffesiynol 2026
Wnaethoch chi fethu ein digwyddiad Siarad yn Broffesiyniol ym mis Ionawr 2026? Daeth yr Athro Kelly Mackintosh i archwilio ymddygiad dysgwyr a grym gweithgaredd corfforol. Mae fideo o'r digwyddiad bellach ar gael i'w wylio yn ôl ar ein sianel Youtube.
Angen hyfforddiant?
Gallwn ddarparu hyfforddiant yn bersonol ar nifer o bynciau, gan gynnwys ein rôl, y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, y PDP, a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol. Gallwn hefyd ddod â stondin i'ch cynhadledd neu ddigwyddiad, fel bod pobl yn gallu dod i siarad gyda ni'n uniongyrchol.
Llenwch y ffurflen ar y dudalen, ac fe wnawn ni gysylltu gyda chi.
