CGA / EWC

About us banner
Cylchlythyr FyCGA Gorffennaf 2026
Cylchlythyr FyCGA Gorffennaf 2026

Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd

Astudiaethau achos Priodoldeb i Ymarfer

Mae'r astudiaeth achos PiY diweddaraf yn canolbwyntio ar ymddygiad cyfreithlon, lle rhoddwyd Cerydd i gofrestrai am drosedd berthnasol. Mae dilyn y gyfraith yn hanfodol i arfer da.

Ry'n ni wedi creu'r astudiaethau achos yma i'ch helpu chi i osgoi peryglon posibl, ac i ddangos i chi beth all ddigwydd pan fo cofrestrai'n torri'r Cod.

Diweddariadau'r Cyngor

Aelodau newydd y Cyngor

Croeso mawr i Anwen Foy a Matthew Owens wnaeth ymuno â'n Cyngor ym mis Ebrill yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus uniongyrchol. Gallwch ddarllen mwy amdanynt a holl aelodau eraill y Cyngor ar ein gwefan.

Cyfarfod nesaf y Cyngor

Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys cofrestreion, ddod i gyfarfod Cyngor CGA i arsylwi. Bydd cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal yn swyddfeydd CGA, ddydd Iau 9 Gorffennaf. Os hoffech This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol

Chwilio am eich rôl ddelfrydol?

Beth bynnag fo'ch siwrnai, mae Addysgwyr Cymru yma i'ch helpu i fod yr addysgwr gorau y gallwch fod, ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yng Nghymru. Os ydych yn chwilio am swydd newydd, ewch i borthol swyddi Addysgwyr Cymru

Ddim yn siŵr beth yw'ch cam nesaf? Mae'r tîm hefyd ar gael i gynnig gwasanaeth eirioli a chefnogaeth. Cysylltwch â'r tîm nawr.

Canllawiau arfer da

Mae gyda ni gyfres o ganllawiau arfer da, sy'n ategu ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, i helpu eich cefnogi chi yn eich gwaith. O gynnal cyfrinachedd i arfer myfyriol, mynd i'r afael â hiliaeth i feithrin perthnasau gwaith cadarnhaol, mae rhywbeth i bawb, i gadw'ch arfer yn gyfredol.

Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Llongyfarchiadau i wasanaeth ieuenctid Bro Morgannwg a gwasanaeth ieuenctid Powys, sydd wedi adnewyddu eu MAGI efydd yn ddiweddar.

Os oes diddordeb gyda chi yn helpu eraill yn cael y MAGI, beth am fod yn asesydd? Mae gyda ni fwy o wybodaeth, a ffurflen gais ar ein gwefan.

Diweddariadau i'ch platfform e-wasanaethau yn dod cyn hir!

Rydym wrthi'n gweithio ar welliannau i'r platfform e-wasanaethau i'w gwneud hi'n haws i chi:

  • weld eich manylion cofrestru
  • cadw eich cofnod CGA yn gyfredol
  • gweld a lawrlwytho dogfennau pwysig
  • cael mynediad at adnoddau allweddol gan gynnwys y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) ac EBSCO

Cadwch lygad allan yn yr wythnosau nesaf am fwy o wybodaeth.

Cyfres digwyddiadau'r haf yn parhau

Diolch i bawb ddaeth heibio i'r stondin (neu i'r Ystafell Athrawon, oedd yn boblogaidd iawn) yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn ddiwedd Mai. Cawsom ni wythnos wych yn siarad gyda chynifer ohonoch, gan rannu diweddariadau, a chlywed am eich profiadau. Fe wnaethom fwynhau'r cyfle i siarad gyda phartneriaid, ac fe gawsom ymweliad gan y Gweinidog dros Addysg a'r Iaith Gymraeg newydd, Anna Brychan, wnaeth ddod am sgwrs (a gêm gyflym o Jenga!).

Byddwn ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd yn wythnos gyntaf Awst, lle byddwn ni'n cael cwmni ein Prif Weithredwr, a'n Cyfarwyddwr Rheoleiddio, ddydd Mawrth, Iau, a Gwener. Dewch draw i'r stondin i gael sgwrs.

Ddown ni atoch chi!

Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n cynnal hyfforddiant ac i'n grwpiau cofrestreion a rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraethwyr ysgol, a sefydliadau hyfforddi? Os ydych yn cynllunio eich hyfforddiant ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, llenwch y ffurflen i'n gwahodd ni i ddod atoch chi.

Hysbysu polisi

Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg

Byddwn yn cyhoeddi ein Hystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer 2025-26 ar ein gwefan cyn hir. Mae'n cynnwys y ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth ar bwy sy'n gweithio mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu'n seiliedig ar waith ng Nghymru, ac mae'n dod o Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA.

This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Rhag ofn i chi ei fethu

Cyhoeddi ein hadroddiadau blynyddol

Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi cyfres o adroddiadau blynyddol, gan gynnwys ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ddiwedd mis Gorffennaf ar ein gwefan. Cadwch lygad ar ein gwefannau cymdeithasol a'r wefan.


Oes gyda chi adborth ar y dudalen yma? This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..