Adnewyddu eich cofrestriad ar gyfer 2024/25
Ydych chi wedi derbyn eich cais i adnewyddu eich ffi ar gyfer 2024/25? Gallwch dalu nawr. Mae'n cymryd ychydig funudau.
Os ydych wedi eich cyflogi ar gontract yng Nghymru, bydd eich cyflogwr yn cymryd eich ffi cofrestru'n awtomatig o'ch cyflog fis Mawrth.
Cofrestru a rheoleiddio
Newidiadau cofrestru ar gyfer AB ac addysg oedolion
O 1 Ebrill 2024, bydd nifer o newidiadau yn dod i rym ar gyfer y rheiny sy'n gweithio mewn addysg bellach (AB) ac addysg oedolion ledled Cymru. Darllen mwy o wybodaeth am y newidiadau hyn.
Dweud eich dweud ar osod ein cyfeiriad
Rydym yn ymgynghori ar ein Cynllun Strategol drafft 2024-27, a'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 ar hyn o bryd. Rydym yn gofyn am farn cofrestreion, yn enwedig y rheiny o gefndiroedd amrywiol, ac sydd wedi byw bywydau amrywiol.
Penodi aelodau i Fwrdd Achredu AGA
Oes profiad helaeth gyda chi yn y sector addysg yng Nghymru ac yn edrych am gyfle datblygu gwych? Rydym yn chwilio am unigolion talentog i ymuno â'n Bwrdd Achredu AGA.
Newidiadau i sefydlu ar gyfer athrawon ysgol
Bydd gan ANGau sydd wedi cael statws athro cymwys (SAC) rhwng 1 Ebrill 2003 a 6 Tachwedd 2022, bum mlynedd o 7 Tachwedd 2022 i gwblhau sefydlu. Bydd gan ANGau sydd wedi cael SAC o 7 Tachwedd 2022 ymlaen, bum mlynedd o ddyddiad y rhoddwyd y SAC i gwblhau sefydlu. Darllen mwy am sefydlu athrawon yng Nghymru.
Gwiriwch eich cofnod
Rydych chi'n gyfrifol am sicrhau bod eich manylion ar y Gofrestr yn gyfredol. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gallu anfon gwybodaeth bwysig atoch chi, gan gynnwys cadarnhau eich cofrestriad. Gallwch ddiweddaru eich manylion ar y ffurflen fer hon, neu drwy fewngofnodi i'ch cyfrif FyCGA.
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
Fel cofrestrai CGA, mae disgwyl i chi lynu wrth safonau'r Cod (gallwch wylio ein hanimeiddiad nawr).
I'ch helpu chi, ry'n ni wedi datblygu cyfres i ganllawiau arfer da, sy'n cynnig cyngor defnyddiol ar sut gallwch fewnosod egwyddorion y Cod i'ch arfer o ddydd i ddydd.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Addysgwyr Cymru
Addysgwyr Cymru (a gyllidir gan Llywodraeth Cymru a'i ddarparu gan CGA) yw'r wefan ar gyfer rheiny sy'n chwilio am gyfleoedd swyddi newydd. Gyda'r nifer fwyaf o swyddi gwag yn sector addysg Cymru, mae'n rhoi mynediad i chi i amrywiaeth enfawr o swyddi yn ysgolion, colegau addysg bellach, darparwyr dysgu'n seiliedig ar waith ac addysg oedolion, sefydliadau gwaith ieuenctid, a llawer mwy ledled Cymru.
Crëwch eich proffil nawr i gael hysbysiadau wedi eu teilwra ar gyfer swyddi a lleoliadau penodol.
Gwneud defnydd llawn o'ch PDP
Cofiwch, fod gennych chi fel cofrestrai CGA fynediad am ddim a di-dor i'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Mae' n llawn nodweddion i'ch cefnogi ar eich siwrnai ddysgu broffesiynol.
Wyddech chi fod gyda chi fynediad am ddim i EBSCO?
Mae'n llyfrgell ar-lein sy'n llawn adnoddau i gefnogi eich dysgu proffesiynol, neu adnoddau addysgol gan gynnwys e-lyfrau, newyddiaduron, ac erthyglau.
Sgwrsio gyda CGA
Os nad ydych wedi cael cyfle i wrando ar ein podlediad eto, gallwch wrando yn ôl. Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn croesawu Comisiynydd y Gymraeg i drafod y Gymraeg yn y gweithlu addysg. Tanysgrifiwch nawr i fod y cyntaf i gael y penodau newydd wrth iddynt gael eu rhyddhau.
Siarad yn Broffesiynol 2024
Os ddaethoch chi i'n digwyddiad Siarad yn Broffesiynol ym mis Ionawr, diolch am gyfrannu i ddigwyddiad mor ddiddorol. Os na lwyddoch chi fod yna, bydd recordiad o'r digwyddiad, ac adnoddau ar gael cyn hir.
Hysbysu polisi
Ein hymateb: newidiadau arfaethedig i'r flwyddyn ysgol
Darllenwch ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, ac ymgynghoriadau eraill, ar ein gwefan.
Rhag ofn i chi ei fethu
Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (MAGI)
Rydym wedi bod yn dathlu rhai o dderbynwyr diweddaraf MAGI dros y misoedd diwethaf. Mae mwy o wybodaeth yn ein hadran newyddion diweddaraf.
Cyfarfod y Cyngor
Bydd cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd, ddydd Iau 14 Mawrth. Mae croeso i unrhyw un sydd am ddod i arsylwi'r cyfarfod.