Mae nifer yr athrawon newydd yng Nghymru wedi cynyddu gan chwarter o’i gymharu â’r llynedd, yn ôl data a gyhoeddwyd heddiw gan CGA.
Dengys y ffigurau fod 1,231 o hyfforddeion wedi ennill Statws Athro Cymwysedig ym mis Gorffennaf trwy raglenni addysg gychwynnol athrawon o gymharu â 975 yn 2020. Cynrychiola hyn y nifer flynyddol uchaf o athrawon newydd yng Nghymru ers 2015.
Yn ogystal â chynnydd cyffredinol yn y niferoedd, bu cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 49% mewn athrawon newydd gymhwyso ysgolion uwchradd, gyda phynciau craidd fel mathemateg, gwyddoniaeth ac ieithoedd i gyd yn gweld gwelliannau ar flynyddoedd blaenorol.
Dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn:
“Rydym yn gweld diddordeb o’r newydd mewn addysgu fel gyrfa yng Nghymru. Lansiodd Cymru raglenni addysg athrawon newydd yn 2019 sy'n cymharu â goreuon y byd. Mae’r rhain yn sicrhau y bydd unrhyw un sydd eisiau hyfforddi yng Nghymru yn cael sylfaen ragorol i ddechrau gyrfa werth chweil.
Y llynedd, lansiodd Cymru ei rhaglenni hyfforddi athrawon rhan-amser a â chyflog ei hun a redir gan y Brifysgol Agored. Bydd y rhaglenni hyn yn ychwanegu ymhellach at nifer yr athrawon newydd yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.”
Heddiw mae CGA wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2021.
Mae'r adroddiad yn amlygu ein cyflawniadau a pherfformiad gweithredol trwy gydol y flwyddyn ariannol.
Er gwaethaf heriau'r pandemig, gwnaethom gynnal lefelau uchel o wasanaeth yn ystod y flwyddyn.
Yn ei adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn:
“Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn cynnig cyfle i fyfyrio ar waith y Cyngor [...] yn ystod blwyddyn o heriau digynsail i bawb sy’n ymwneud ag addysg yng Nghymru.
Yn anochel, rydym i gyd wedi gweld ein cynlluniau yn newid eleni oherwydd y pandemig Covid-19. Fodd bynnag, diolch i broffesiynoldeb, gwaith caled ac ymroddiad ein tîm, cyflawnom ein holl amcanion strategol gan sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl.
Wrth i ni symud ymlaen i 2021-22, bydd llawer ohonom yn awyddus i ddychwelyd i’r ‘arfer’. Fodd bynnag, bydd yn hanfodol i ni gyd neilltuo amser i fyfyrio ar ba wersi y gellid eu dysgu o’r pandemig, a’r modd y gallai’r rhain ddylanwadu ar bolisi addysg er gwell."
Mae uchafbwyntiau allweddol ein gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol yn cynnwys:
ein perfformiad mewn perthynas â'n prosesau a'n gweithdrefnau cofrestru a phriodoldeb i ymarfer
ein darpariaeth barhaus o fewnwelediad a chyngor i ddylanwadu ar bolisi ar draws y sector addysg yng Nghymru
ein cefnogaeth barhaus o ran dysgu a datblygiad proffesiynol ein cofrestreion
ein rôl wrth ddatblygu gweithlu o ansawdd uchel trwy achrediad AGA a'r Marc Ansawdd ar Gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
ein gwaith gyda phartneriaid i gynnal yr arolwg mwyaf o'r gweithlu addysg yng Nghymru.
Eleni, mae'r adroddiad wedi derbyn barn archwilio ddiamod unwaith eto gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Golyga hyn fod ein hadroddiad yn rhoi golwg wir a theg o'n sefyllfa ariannol a'n hincwm a gwariant am y flwyddyn.
Y flwyddyn mewn rhifau
Yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21 gwnaethom:
brosesu 10,724 o geisiadau newydd am gofrestru
cyflwyno dros 250 o sesiynau a chyflwyniadau rhithwir
cyrraedd 30,750 o ddefnyddwyr y PDP
gymryd rhan mewn dros 25 o grwpiau llywio cenedlaethol ac ymateb i 26 o ymgynghoriadau a galwadau am dystiolaeth
dyfarnu'r Marc Ansawdd ar Gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru i 9 sefydliad gwaith ieuenctid.
Fel rheoleiddiwr, un o'n swyddogaethau craidd yw ymchwilio a gwrando ar honiadau a allai fwrw amheuaeth ar briodoldeb cofrestrai i ymarfer.
Mae ein trydydd Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer yn nodi sut yr ydym wedi cyflawni’r gwaith hwn i ddiogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a'r cyhoedd.
Uchafbwyntiau’r Adroddiad
Achosion a derfynwyd
Terfynwyd 84.8% o achosion cyn pen 8 mis ac fe'u terfynwyd, ar gyfartaledd, cyn pen 4.5 mis.
Demograffeg
Er mai menywod yn bennaf sydd yn y gweithlu addysg yng Nghymru (79.0%), mae ein hadroddiad yn dangos mai dosbarthiad y rhywiau yn ein gwaith achosion eleni oedd 59.1% dynion a 40.1% menywod, ac mai pobl 40 i 49 oed oedd y categori oedran mwyaf cyffredin (25.8% o’r achosion a derfynwyd).
Categori
Mae amrywiad yn nifer yr atgyfeiriadau oddi wrth bob grŵp / sector o gofrestreion, gyda CGA yn cael cyfran fwy o atgyfeiriadau yn ystod 2020-21 (19.7% o’r achosion a derfynwyd) oddi wrth y sectorau Addysg Bellach ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith o gymharu â’r sector ysgolion er bod y gyfran hon o gyfanswm yr achosion a derfynwyd yn is na ffigur 2019-20 sef 36.6%.
Ffynhonnell atgyfeiriadau
Caiff y rhan fwyaf o atgyfeiriadau eu gwneud gan gyflogwyr o'r naill flwyddyn i’r llall. Fodd bynnag, mae’r rhaniad canrannol ar gyfer 2020-21 yn debyg i batrwm 2019-20 gan fod 9.1% o’r atgyfeiriadau a derfynwyd wedi dod oddi wrth yr heddlu yn 2020-21 o gymharu â 10.3% yn 2019-20.
Mae CGA wedi cyhoeddi rheolau newydd sy’n amlinellu’r modd y mae’n bwriadu gweithredu Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021 a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021.
Diweddarwyd Rheolau a Gweithdrefnau Disgyblu 2017 i gynnwys Gorchmynion Atal Dros Dro yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheolau drafft a wnaeth bara mis rhwng Ebrill a Mai 2021.
Lansiwyd gwefan newydd sydd wedi’i bwriadu i hyrwyddo gyrfaoedd a dilyniant gyrfa yn y proffesiynau addysg yng Nghymru heddiw (8 Mehefin 2021).
Gwefan Addysgwyr Cymru – www.addysgwyr.cymru – fydd y ddesg gymorth gychwynnol a’r ‘ffenest siop’ ar gyfer gweithlu’r sector, gan ddarparu:
porth gyrfaoedd, lle gall bobl ddod o hyd i wybodaeth, gan gynnwys y cymwysterau a’r sgiliau mae arnynt eu hangen ar gyfer swyddi penodol
porth hyfforddiant lle gall darparwyr hysbysebu eu cyfleoedd hyfforddiant a lle gall bobl chwilio am hyfforddiant i fynd i mewn i’r proffesiwn. I’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg yn barod, bydd y porth hyfforddiant yn eu galluogi i chwilio am gyfleoedd dysgu proffesiynol
porth swyddi Cymru gyfan, lle gall cyflogwyr hysbysebu eu swyddi gwag yn rhad ac am ddim a lle gall addysgwyr presennol chwilio am swyddi.
Dwedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA:
“Rydym ni wedi gweithio'n agos â'r sector i ddatblygu gwefan a gwasanaeth sy'n ceisio ysbrydoli, denu a recriwtio'r talent gorau i'r gweithlu addysg yng Nghymru.
Gwefan Addysgwyr Cymru fydd y pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sy'n ystyried dilyn gyrfa ym maes addysg, ac i ymarferwyr presennol sy'n awyddus i gamu ymlaen yn eu gyrfa.”
Gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Addysgwyr Cymru a ddatblygwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg yng Nghymru.
Datblygwyd y wefan ar ran Llywodraeth Cymru gyda’r nod o gynyddu’r nifer o bobl sy’n hyfforddi i ymuno â’r sector ac sy’n aros ynddo.