CGA / EWC

About us banner
CGA yn cyhoeddi canllaw i arweinwyr
CGA yn cyhoeddi canllaw i arweinwyr

Heddiw (30 Awst), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi canllaw ymarfer da a ddatblygwyd yn benodol i arweinwyr addysg.

Mae’r diweddaraf, sy’n rhan o gyfres o ganllawiau, wedi’i anelu at bobl mewn rolau arwain uwch a chanolig, ac mae’n amlygu rhai awgrymiadau defnyddiol i helpu llywio barnau a phenderfyniadau proffesiynol cofrestreion o ddydd i ddydd.

Bwriedir i gyfres CGA o ganllawiau ymarfer da ategu’r Cod Ymarfer ac Ymddygiad Proffesiynol. Mae canllawiau eraill yn y gyfres hon yn cynnwys ‘Proffesiynoldeb ar waith’, ‘Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol’, a ‘Mynd i’r afael â hiliaeth’. Mae’r gyfres lawn ar gael trwy wefan CGA.

Yn ogystal â’r canllawiau ymarfer da, mae CGA hefyd yn cynnig hyfforddiant mewnol yn uniongyrchol i gofrestreion a chyflogwyr ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y Cod, cofrestru a defnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol, yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau a digwyddiadau cymorth.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y CGA.