CGA / EWC

About us banner
Rhyddhau canllaw newydd ar gyfer gwaith ieuenctid
Rhyddhau canllaw newydd ar gyfer gwaith ieuenctid

Gyda chefnogaeth gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae’r sector gwaith ieuenctid wedi cyhoeddi ei lyfryn diwygiedig Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion.

Cynhyrchwyd y ddogfen ar y cyd â chynrychiolwyr o’r sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn y llyfryn, gall darllenwyr ddysgu rhagor am beth yw gwaith ieuenctid, yr egwyddorion allweddol sy’n sylfaen i waith ieuenctid, trosolwg o’i natur, ei ddibenion a’i gyflenwi, a sut mae CGA yn cefnogi’r sector.

Rhaid i’r bobl sy’n gweithio fel gweithiwr ieuenctid cymwysedig, neu weithiwr cymorth ieuenctid, gofrestru yn ôl y gyfraith gyda CGA cyn gweithio yng Nghymru.

Meddai Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA “Fel rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol, y gweithlu addysg yng Nghymru, rydym yn falch o gefnogi’r llyfryn hwn, sy’n arddangos ansawdd eithriadol y ddarpariaeth gwaith ieuenctid sy’n cael ei chynnig ar hyd a lled y wlad”.

Ym mis Mehefin 2022, i nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid, cyd-gyflwynodd CGA ddigwyddiad arbennig gyda’r sector i arddangos y cyfraniad amhrisiadwy y mae gwaith ieuenctid yn ei wneud at fywyd pobl ifanc yn y sector addysg yn ei gyfanrwydd.

Hefyd, mae CGA yn gweinyddu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Mae’r Marc Ansawdd yn cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella o ran darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n darparu gwaith ieuenctid, gan arddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith.