O fis Ionawr 2020, mae'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (y Marc Ansawdd) yn cael ei gyflwyno a’i ddatblygu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru a Chylch Asiantaethau Hyfforddiant Cymru.
Ynglŷn â’r Marc Ansawdd
Mae’r Marc Ansawdd yn adnodd unigryw ar gyfer hunanasesu, cynllunio gwelliant ac ennill Marc Ansawdd am waith ieuenctid. Mae’n cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella mewn darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwaith ieuenctid, gan ddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith gyda phobl ifanc.
Mae’r Marc Ansawdd yn cynnwys dwy elfen wahanol:
- cyfres o Safonau Ansawdd y gall sefydliadau gwaith ieuenctid eu defnyddio fel adnodd ar gyfer hunanasesu a gwella
- marc ansawdd wedi’i asesu’n allanol sy’n ddyfarniad cenedlaethol i ddangos rhagoriaeth sefydliad
Ydych chi'n ystyried cymryd rhan yn y Marc Ansawdd? Bwriad ein modiwl e-ddysgu yw i helpu i ddatblygu eich gwybodaeth am y Marc Ansawdd, pam ei fod yn bwysig a’r hyn sydd ynghlwm ag ef. Dechreuwch y modiwl.
Mae 29 o sefydliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi cyflawni’r Marc Ansawdd.
Safonau Ansawdd a dogfennau Arweiniad
Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Cyflwyniad ac arweiniad
Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer asesiad allanol y Marc Ansawdd, cwblhewch ffurflen mynegiant o ddiddordeb.
Am ymholiadau pellach, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu ffoniwch ni ar 029 2046 0099.