CGA / EWC

About us banner
CGA yn penodi dirprwy Gadeirydd newydd ar gyfer y Bwrdd Achredu AGA
CGA yn penodi dirprwy Gadeirydd newydd ar gyfer y Bwrdd Achredu AGA

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn falch o gyhoeddi penodi Dr Christine Jones fel Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA).

Ymunodd Christine â'r bwrdd ym mis Tachwedd 2022, gan ddod â phrofiad helaeth gyda hi. Mae hi wedi cael swyddi gan gynnwys Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant (PDDS), Deon Cynorthwyol Ansawdd a Deon Sefydliad Addysg a'r Dyniaethau yn PDDS. Fe wnaeth ymddeol o gyflogaeth llawn amser yn 2022.

Yn siarad am ei phenodiad fel Dirprwy Gadeirydd, dywedodd Christine Jones "Mae Addysg Gychwynnol Athrawon yn golygu llawer i mi gan fod athrawon yn chwarae rôl mor hanfodol yn cefnogi a chalonogi datblygiad ein pobl ifanc.

"Mae' r bwrdd hefyd yn bwysig i mi gan ei fod yn helpu sicrhau lefel o gysondeb ar draws y darparwyr, yn ogystal â bod yn fodd o hyrwyddo deialog broffesiynol werthfawr ac arfer da."

Mae Christine hefyd wedi cyhoeddi llyfrau ac erthyglau ar ieithyddiaeth gymdeithasol ac ieithyddiaeth gymhwysol, gan gynnwys nifer o lyfrau i ddysgwyr Cymraeg.

Wrth groesawu Christine i'w rôl newydd, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Achredu AGA, Hazel Hagger "Rwyf wrth fy modd fod Christine, gyda'i phrofiad helaeth o, ac arbenigedd o fewn addysg yng Nghymru, wëid ei phenodi'n Ddirprwy gadeirydd y bwrdd."

Mae gan CGA gyfrifoldeb statudol i achredu rhaglenni AGA yng Nghymru, a monitro eu cydymffurfiaeth yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru. Mae CGA yn dirprwyo cyfrifoldeb dros achredu rhaglenni AGA i'r bwrdd.

Mae'r bwrdd yn cynnwys hyd at 13 aelod, gan gynnwys Cadeirydd a dau ddirprwy, o bob maes ym myd addysg.

Ewch i wefan CGA am fwy o wybodaeth ar achredu a rôl Bwrdd Achredu AGA.