Developing the Expertise of Primary and Elementary Classroom Teachers: Professional Learning for a Changing World gan Tony Eaude
Wedi ei ysgrifennu gan gyn-athro, mae'r llyfr yma'n dadlau bod angen i athrawon fod mewn cytgord ag anghenion dysgwyr unigol i gael arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio'u gwybodaeth a'u dealltwriaeth i greu amgylcheddau cynhwysol yn yr ystafell ddosbarth. Mae Eaude yn ystyried sut gall athrawon cynradd ehangu eu harbenigedd yn llwyddiannus a datblygu ymdriniaeth hyblyg, sythweledol i gynllunio, asesu ac addysgu.
Mae dysgu rheolaidd, proffesiynol mewn cyd-destun, sy'n caniatáu i athrawon berthnasu (a rhoi ar waith) theori i'w harfer eu hun, yn ganolog i ddatblygu sgiliau a galluoedd allweddol. Mae'r llyfr hefyd yn amlinellu'r rôl y gall cymunedau dysgu proffesiynol chwarae yn helpu gwella arfer a chanlyniadau.
Formalise, Prioritise and Mobilise: How School Leaders Secure the Benefits of Professional Learning Networks
Sut gall ysgolion elwa o gymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol, a pha mor werthfawr yw'r perthnasau y maent yn eu meithrin rhwng athrawon ac arbenigwyr, fel ymchwilwyr prifysgol? Mae Brown a Flood yn defnyddio un astudiaeth achos (Rhwydwaith Dysgu Ymchwil y Fforest Newydd) i ddangos y gall rhwydweithiau o'r fath fod yn effeithiol iawn i hyrwyddo gwybodaeth, rhannu, arloesi a helpu rhannu syniadau newydd ac arfer da.
Mae'r awduron yn dadlau y gall arweinwyr ysgolion chwarae rôl bwysig yn penderfynu llwyddiant rhwydweithiau o'r fath. Er enghraifft, trwy gysylltu gwaith rhwydweithiau proffesiynol gyda chynlluniau gwella ysgolion, gall arweinwyr helpu 'ffurfioli' y rhwydwaith ar lefel ysgol, a gwneud y mwyaf o effeithiolrwydd ymgysylltu. Gall ymgymryd â gweithgareddau ymarferol mewn ysgolion, sy'n berthnasol i waith y rhwydwaith dysgu proffesiynol hefyd greu canlyniadau cadarnhaol ar gyfer yr ysgol unigol ac aelodau eraill y rhwydwaith, yn ogystal â grymuso athrawon sy'n cymryd rhan.