CGA / EWC

About us banner
Ymateb CGA i newidiadau arfaethedig i gategorïau cofrestru
Ymateb CGA i newidiadau arfaethedig i gategorïau cofrestru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ‘Categorïau cofrestru newydd ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg’.

Cynigiodd yr ymgynghoriad gyfle i’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol ddweud eu dweud ar y cynigion i ddiwygio’r categorïau y mae’n ofynnol iddynt gofrestru gyda CGA. Ar hyn o bryd, mae’n ofynno i bawb sy’n gweithio yn y rolau canlynol gofrestru cyn ymgymryd â gwaith:

  • athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu cymwysedig mewn ysgolion a gynhelir
  • athrawon a gweithwyr cymorth dysgu sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach neu ar eu rhan
  • ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
  • gweithwyr ieuenctid/gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig sy’n darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar ran corff perthnasol

Mae’r newidiadau arfaethedig yn ymestyn y grwpiau hyn i athrawon a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol, pob gweithiwr ieuenctid/gweithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig, a phobl sy’n gweithio tuag at gymwysterau gwaith ieuenctid ar yr un pryd â bod mewn gwaith cyflogedig.

Mae CGA yn croesawu’r newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth, ond mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru edrych eto ar nifer o faterion er mwyn rhoi eglurhad pellach, gan gynnwys:

  • nifer o newidiadau arfaethedig i ddiffiniadau
  • bwriad Llywodraeth Cymru y gallai athrawon ysgol, yn y dyfodol, weithio fel gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion heb gofrestru felly
  • nifer arfaethedig y cofrestreion a gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer ychwanegol
  • effaith y categorïau cofrestru ychwanegol ar waith priodoldeb i ymarfer CGA

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA “A ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg, mae diogelu dysgwyr a phobl ifanc, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu, yn ganolog i bopeth a wnawn.

“I sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny hyd eithaf ein gallu, mae’n hanfodol bod y ddeddfwriaeth yn glir fel bod yr unigolion cywir wedi’u cofrestru ar draws lleoliadau addysg Cymru”.

Gallwch ddarllen mwy am rôl CGA, ynghyd â’i ymateb llawn i’r ymgynghoriad, ar y wefan.