CGA / EWC

About us banner
Torfaen yn anelu am yr aur yn eu cais diweddaraf am y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Torfaen yn anelu am yr aur yn eu cais diweddaraf am y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Enillodd Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen gydnabyddiaeth am eu darpariaeth gwaith ieuenctid o ansawdd uchel yr wythnos hon, trwy ennill y Marc Ansawdd Arian ac Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)), yn ddyfarniad cenedlaethol sy’n dangos rhagoriaeth sefydliad. Er mwyn ennill yr achrediad, rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid asesu eu hunain yn erbyn cyfres o safonau ansawdd a phasio asesiad allanol.

Yn dilyn eu hasesiad a barodd wythnos, dangosodd Torfaen fod eu gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan weithlu profiadol a chymwys, a oedd yn dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn defnyddio cysylltiadau cadarn â phartneriaid, yn defnyddio adnoddau yn greadigol ac yn cynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.

Meddai David Williams, Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, “Mae derbyn y dyfarniad hwn yn gymaint o anrhydedd ac rydym mor ddiolchgar i bawb sy’n sefyll ochr yn ochr â ni i’w wireddu. 

“Mae’n anrhydedd i mi gael gweithio ochr yn ochr â thîm mor anhygoel o weithwyr ieuenctid ymroddedig, sy’n gweithio’n ddiflino ac yn ymrwymo i gynnig y gwasanaeth gorau y gallwn ni. Yn anad dim, serch hynny, mae’r dyfarniad hwn i’r bobl ifanc sy’n ein hysbrydoli, ein herio, yn gwneud i ni chwerthin a chrio ac sy’n caniatáu i ni fyw bywyd gyda nhw.”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, a arferai fod â Marc Ansawdd Arian ar gyfer Gwaith Ieuenctid, yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ac yn cynnig darpariaeth agored a darpariaeth dargedig. Mae dros 2,000 o bobl ifanc wedi troi at y ddarpariaeth yn y 12 mis diwethaf, gyda llawer ohonynt yn mynd ymlaen i ddatblygu eu hyder a’u dyheadau, cyflawni cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, rhoi cynnig ar brofiadau newydd sy’n anghyfarwydd iddynt a gwneud ffrindiau oes.

Meddai Andrew Borsden, Swyddog Datblygu’r Marc Ansawdd, “Mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen wedi ennill y Marc Ansawdd Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn gwbl haeddiannol ar ôl cyfnod asesu trylwyr. Roedd ansawdd y gwaith ieuenctid sy’n cael ei gynnig yn rhagorol ac roedd ymdrech, brwdfrydedd a symbyliad staff y tîm yn heintus ac ysbrydoledig fel ei gilydd.

“Fe wnaeth yr hyn a welont ac a glywont gan bobl ifanc a phartneriaid argraff fawr ar yr aseswyr. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Marc Ansawdd, gan gynnwys manylion am sut i wneud cais, ewch i wefan CGA.