CGA / EWC

About us banner
Recriwtio aelodau o’r Panel Priodoldeb i Ymarfer
Recriwtio aelodau o’r Panel Priodoldeb i Ymarfer

Os ydych yn gweithio yn y gweithlu addysg yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda CGA, gallwch wneud cais am y cyfle unigryw yma ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.


Rydym yn recriwtio aelodau panel ar gyfer ein gwaith achos priodoldeb i ymarfer, ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob cornel o'r gweithlu.

Mae gan CGA rôl bwysig i'w chwarae yn cynnal safonau proffesiynol ymddygiad ac ymarfer, a diogelu buddion dysgwyr, rheini/gofalwyr a'r cyhoedd. Rhan o'r rôl honno yw ymchwilio ac ystyried unrhyw achosion allai gwestiynu priodoldeb i ymarfer cofrestreion.

Mae aelodau ein panel yn hanfodol i'r gwaith yma, gan roi mewnbwn proffesiynol hanfodol i'r rhan yma o'n cyfrifoldeb. Rydym yn chwilio am aelodau ychwanegol sy'n gofrestreion i ymuno gyda'n panelau.

Os oes diddordeb gyda chi yn cyfrannu at y gwaith pwysig yma, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio. Gwnewch gais erbyn canol dydd ar 4 Gorffennaf 2022.