Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon – Aelodau Bwrdd
Rydym yn chwilio am nifer o aelodau pwyllgor talentog a chydwybodol i ymuno â Bwrdd Achredu AGA CGA (Y Bwrdd), dan gadeiryddiaeth Dr Hazel Hagger. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am ganfod derbynioldeb proffesiynol yr holl raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon, sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig yng Nghymru.
Os gallwch gyfrannu’ch amser, profiad ac arweinyddiaeth am o leiaf 20 diwrnod y flwyddyn ac os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, yna lawrlwythwch y pecyn cais yma cyn y dyddiad cau o 1 Gorffennaf 2022.
Rydym yn chwilio’n arbennig am aelodau â phrofiad helaeth ar lefel uwch mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol: addysg gychwynnol athrawon, ysgolion, arolygu, addysg uwch, sicrwydd ansawdd a rheoleiddio proffesiynol.