CGA / EWC

About us banner
Nifer y staff cymorth yn cynyddu yn ystadegau diweddaraf y gweithlu addysg
Nifer y staff cymorth yn cynyddu yn ystadegau diweddaraf y gweithlu addysg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Ystadegau blynyddol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru 2022.

Mae’r data wedi’i seilio ar wybodaeth o Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA ac mae’n cynnig cipolygon gwerthfawr i gyfansoddiad y gweithlu addysg, fel oedran, ethnigrwydd, rhywedd ynghyd â chymwysterau a phynciau.

Mae’r set ddata ddiweddaraf wedi datgelu bod cyfansoddiad ystafelloedd dosbarth yng Nghymru’n parhau i newid.

Cynyddodd nifer y cynorthwywyr addysgu a staff cymorth eraill sydd wedi cofrestru i weithio mewn ysgolion gwladol dros 10% rhwng 2021 a 2022. Bu cynnydd bach yn nifer yr athrawon ysgol cofrestredig hefyd (1.4%). Mewn lleoliadau eraill, fel addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a gwaith ieuenctid, mae nifer y staff wedi aros yn fwy sefydlog. Mae tuedd niferoedd uwch o staff sy’n darparu cymorth hanfodol i athrawon yn adlewyrchu patrwm a welwyd mewn proffesiynau eraill, fel ym maes iechyd, gwaith cymdeithasol a’r gyfraith.

Meddai Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn “Arweiniodd ail flwyddyn pandemig COVID-19 at alw sylweddol am staff ychwanegol yn ein hysgolion, yn enwedig trwy asiantaethau cyflenwi. Roedd hyn ar gyfer absenoldebau a achoswyd gan COVID-19 ac i gynorthwyo ag adfer yn ei sgil.

“Ers dechrau’r flwyddyn academaidd newydd (2022-23), mae nifer y bobl sy’n cofrestru i weithio mewn rôl gefnogol wedi aros yn gadarn ac mae’n arwydd cadarnhaol. Mae’r staff hyn yn elfen bwysig o ran sicrhau bod ysgolion yn gweithio’n hwylus ac yn effeithiol”.

“Mae’n bwysig bod gennym ddealltwriaeth lwyr o’n gweithlu yng Nghymru fel y gall cyflogwyr a llunwyr polisi gynllunio at y dyfodol ac ymateb i unrhyw heriau cenedlaethol a byd-eang o ran recriwtio a chadw staff”.

Mae Ystadegau blynyddol y gweithlu addysg yng Nghymru 2022 yn llawn a’u canfyddiadau allweddol ar gael i’w darllen ar wefan CGA.