Fel y corff rheoleiddio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yng Nghymru, mae gennym dros 78,000 o unigolion cofrestredig bellach, gan gynnwys athrawon ysgol, darlithwyr addysg bellach, staff cymorth ysgolion ac AB, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Mae Cofrestr ymarferwyr CGA yn dal llawer o ddata unigryw am y gweithlu addysg yng Nghymru.
- Crynodeb ystadegau
- Arolwg cenedlaethol o’r gweithlu addysg
- Canlyniadau myfyrwyr AGA
- Athrawon ysgol
- Dyfarnu SAC, ANG a Sefydlu
- Arweinyddiaeth a CPCP
- Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgol
- Cyflenwi
- Athrawon addysg bellach
- Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
- Gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid
- Crynodeb ystadegau
- Arolwg cenedlaethol o’r gweithlu addysg
- Canlyniadau myfyrwyr AGA
- Athrawon ysgol
- Dyfarnu SAC, ANG a Sefydlu
- Arweinyddiaeth a CPCP
- Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgol
- Cyflenwi
- Athrawon addysg bellach
- Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
- Gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid
Crynodeb ystadegau
Ystadegau Blynyddol CGA ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2021
Canfyddiadau allweddol
Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi dadansoddiad manwl o’r gweithlu addysg yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o ymarferwyr ar draws y saith grŵp ar ein cofrestr. Yn eu plith mae:
- athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach (AB);
- gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig; ac
- ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith (DSW).
Daw'r ystadegau a gynhyrchwn o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA (y Gofrestr). Mae'r Gofrestr yn un amser real ac yn darparu data manwl a chynhwysfawr ar bob grŵp cofrestredig.
Ar 1 Mawrth 2021, roedd 78,626 o unigolion wedi'u cofrestru gyda ni.
Sut mae ein data ni’n wahanol?
Mae'r data a ddarparwn yn unigryw ac nid yw ar gael trwy unrhyw sefydliad neu gorff arall. Am y rheswm hwnnw, ni ddylid ei gymharu â ffynonellau eraill fel cyfrifiad blynyddol gweithlu ysgolion Llywodraeth Cymru (SWAC).
Mae ein hystadegau yn wahanol am ein bod yn adrodd ar y gweithlu addysg gyfan yng Nghymru. Ar gyfer y sector ysgolion yn arbennig, yn wahanol i'r SWAC, mae ein data yn fwy cynhwysfawr. Mae hyn oherwydd ei fod yn cynnwys yr holl athrawon cyflenwi, gweithwyr peripatetig, gweithwyr llawrydd ac eraill sy'n darparu addysg neu hyfforddiant mewn ystod o leoliadau addysg. Mae gennym ddata hanesyddol sylweddol hefyd - yn achos athrawon, mae hyn yn 20 mlynedd. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu gwybodaeth helaeth am dueddiadau.
Rydym yn cyfrifo'r canrannau a ddyfynnwyd ar ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol ac iaith Gymraeg o gyfanswm yr unigolion cofrestredig. Mae hyn yn cynnwys y rhai lle nad yw'r gwerth yn hysbys. Caiff canran y rhai 'anhysbys' ym mhob ardal ei nodi hefyd er mwyn cyflawnder.
Noder: I sefydlu'r Gofrestr ar gyfer pob grŵp buom yn gweithio gyda chyflogwyr. Roedd y cofrestriad cychwynnol “yn dorfol” ac yn gofyn am y data lleiaf posibl. Mae ymarferwyr wedi poblogi eu cofnodion ymhellach, ac yn parhau i wneud hynny, gydag unigolion cofrestredig newydd yn darparu gwybodaeth lawn. Y grwpiau cofrestreion mwy newydd yw:
- athrawon addysg bellach (ymunwyd yn 2015)
- gweithwyr cymorth dysgu ysgol ac addysg bellach (ymunwyd yn 2016)
- ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid (ymunwyd yn 2017).
Mae gwaith yn barhaus i boblogi cofnodion y grwpiau cofrestredig mwy newydd.
Athrawon ysgol
Mae nifer yr athrawon ysgol gofrestredig wedi parhau i ostwng o un flwyddyn i'r llall. Rhwng 2011 a 2021, gostyngodd y niferoedd 10.3% (38,770 yn 2011; 34,766 yn 2021).
Mae'r mwyafrif yn fenywaidd (75.7%). Bu gostyngiad graddol yng nghyfran yr athrawon gwrywaidd o 28.1% yn 2002 i 24.3% yn 2021.
Mae proffil oedran athrawon ysgol yn parhau'n gytbwys, gyda 45.0% o dan 40 oed a 30.1% rhwng 40 a 50 oed.
Nododd 1.3% o athrawon ysgol eu bod naill ai'n Ddu, yn Asiaidd neu o leiafrif ethnig (BAME) a nododd 91.6% eu bod yn Wyn. (5.7% yn anhysbys).
Nododd 63.0% mai Cymry oedden nhw a 22.8% yn Brydeinwyr o ran eu hunaniaeth genedlaethol. (5.4% yn anhysbys).
Mae tuedd yr athrawon ysgol sy'n siaradwyr Cymraeg (33.5%) neu sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg (27.1%) wedi parhau'n weddol sefydlog gydag ychydig o amrywiaeth o un flwyddyn i’r llall. (3.5% yn anhysbys yn y ddau). Mae tua 20% o athrawon ysgol yn cael eu cyflogi mewn ysgolion Cymraeg.
Yng Nghymru, nid yw data statws athro cymwysedig yn benodol i ystodau oedran na phynciau. O'r athrawon uwchradd sy'n addysgu Saesneg, Mathemateg neu'r Gymraeg, mae 79.3%, 77.0% a 72.2% yn y drefn honno wedi'u hyfforddi yn y pwnc maent yn ei addysgu. Yn y pynciau sylfaen, mae tua 80% o ymarferwyr uwchradd wedi eu hyfforddi yn y pynciau maent yn eu haddysgu, ac eithrio Technoleg Gwybodaeth (42.2%).
Noder: I sefydlu'r Gofrestr ar gyfer pob grŵp buom yn gweithio gyda chyflogwyr. Roedd y cofrestriad cychwynnol “yn dorfol” ac yn gofyn am y data lleiaf posibl ar gyfer grwpiau cofrestreion mwy newydd, sef: athrawon addysg bellach (ymunwyd yn 2015); gweithwyr cymorth dysgu ysgol ac addysg bellach (ymunwyd yn 2016); ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid (ymunwyd yn 2017).
Mae ymarferwyr wedi poblogi eu cofnodion ymhellach, ac yn parhau i wneud hynny, gydag unigolion cofrestredig newydd yn darparu gwybodaeth lawn. Mae gwaith yn barhaus i boblogi cofnodion y grwpiau cofrestredig mwy newydd.
Gweithwyr cymorth dysgu ysgol
Mae nifer y gweithwyr cymorth dysgu ysgol gofrestredig wedi cynyddu 15.7% ers 2017 i 38,668 yn 2021.
Mae cyfran uwch (86.3%) yn fenywaidd o gymharu â'r grwpiau cofrestru eraill. Athrawon ysgol yw’r grŵp uchaf nesaf.
Mae 14.4% o dan 25 oed, sydd gryn dipyn yn uwch nag athrawon ysgol, gyda 3.6% yn dod o fewn yr ystod oedran hon.
Mae 3.2% wedi nodi mai Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig yw eu hethnigrwydd, ac mae 64.6% wedi nodi eu bod yn Wyn. Nododd 40.7% o weithwyr cymorth dysgu ysgol mai Cymry ydyn nhw o ran eu hunaniaeth genedlaethol. (31.1% yn anhysbys yn y ddau).
Gall 19.7% siarad Cymraeg, ac mae 16.7% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. (31.1% a 31.4% yn anhysbys).
Athrawon AB
Mae nifer yr athrawon AB wedi cynyddu ers iddynt ymuno â'r gofrestr yn 2016. Fodd bynnag, gostyngodd y nifer hon 2.2% i 6,605 rhwng 2020 a 2021.
Mae’r rhaniad rhwng y rhywiau'n fwy cytbwys na'r grwpiau cofrestreion eraill; 59.6% yn fenywaidd, 40.4% yn wrywaidd.
Mae'r gweithlu AB yn hŷn na'r gweithlu ysgol, gyda 45.8% yn 50 oed ac yn hŷn o gymharu â 25.0% o athrawon ysgol a 36.9% o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Nododd 74.2% o athrawon AB mai Gwyn oedd eu hethnigrwydd. Nododd 43.9% mai Cymry oedden nhw o ran eu hunaniaeth genedlaethol a 24.6% mai Prydeinwyr oedden nhw. (20.2% yn anhysbys yn y ddau).
Mae 16.4% yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu weddol rugl ac 11.7% yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. (20.3% yn anhysbys yn y ddau).
Cyfran uchaf yr athrawon AB sy'n addysgu'r pwnc y cawsant eu hyfforddi ynddo yw'r rhai sy'n addysgu Astudiaethau Crefyddol a Hanes. Mae gan 40% o'r rhain gymwysterau yn y pynciau hynny.
Mae 83.8% o gofnodion athrawon AB yn cynnwys gwybodaeth am gymwysterau (16.2% yn anhysbys). O'r ymarferwyr hynny, mae 73.8% wedi cofnodi cymhwyster ar lefel 6 neu'n uwch.
Gweithwyr cymorth dysgu AB
Mae'r nifer sydd wedi'u cofrestru yn y categori gweithiwr cymorth dysgu AB wedi cynyddu ers iddynt gofrestru gyntaf yn 2017. Yna gostyngodd 3.0% rhwng 2020 a 2021 i 5,243.
Mae mwyafrif y gweithwyr cymorth dysgu AB yn fenywaidd (69.0%).
Mae gweithwyr cymorth dysgu AB yn weithlu iau nag athrawon AB am fod 63.2% o’r gweithlu o dan 50 oed, o gymharu â 54.2% o athrawon AB. Mae 18.3% o weithwyr cymorth dysgu AB o dan 30 oed.
Mae 4.2% wedi nodi mai Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig yw eu hethnigrwydd, ac mae 77.7% wedi nodi eu bod yn Wyn.
Mae 44.9% wedi nodi mai Cymry ydyn nhw o ran eu hunaniaeth genedlaethol a 26.1% yn Brydeinwyr. (15.9% a 15.8% yn anhysbys).
Gall 15.2% siarad Cymraeg, ac mae 10.7% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. (16.2% a 16.1% yn anhysbys).
Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
Mae nifer y rhai sydd wedi'u cofrestru yn y categori dysgu seiliedig ar waith wedi cynyddu ers 2018. Fodd bynnag, rhwng 2020 a 2021 bu gostyngiad o 6.2% i 3,321 yn 2021.
Mae 63.2% o ymarferwyr DSW yn fenywaidd a 36.8% yn wrywaidd.
Mae dosbarthiad mwy cyfartal yn ystod oedran ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, gyda 8.9% o dan 30 oed, 12.7% yn 60 oed ac yn hŷn a rhwng 24.3% i 27.5% yr un yn y categorïau oedran eraill (30 i 39, 40 i 49 a 50 i 59).
Mae 1.6% o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith wedi nodi mai Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig yw eu hethnigrwydd, ac mae 76.5% wedi nodi eu bod yn Wyn. Yn debyg i gategorïau cofrestru eraill, y datganiad mwyaf poblogaidd wrth nodi hunaniaeth genedlaethol yw fel Cymry, gyda 45.5%. (19.8% a 20.0% yn anhysbys).
Dywedodd 13.1% o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi gwneud datganiad eu bod yn gallu siarad Cymraeg, a gall 9.4% weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. (18.6% a 18.8% yn anhysbys).
Mae gwybodaeth bynciol wedi’i phoblogi ar gyfer 40.7% o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi'u cyflogi mewn sefydliad dysgu seiliedig ar waith. O'r rhai hynny sydd wedi'u cofnodi, y pynciau a gaiff eu haddysgu fwyaf yw Iechyd a Gofal Cymdeithasol (13.3%), Busnes (13.8%), Sgiliau ar gyfer Byd Gwaith (14.2%).
Mae 71.3% o gofnodion ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cynnwys gwybodaeth am gymwysterau, ac o'r rheiny, mae 47.6% yn meddu ar gymhwyster ar lefel 5 neu’n uwch.
Gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig
Mae gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid yn gymwys i gofrestru gyda CGA os ydynt yn meddu ar un o'r cymwysterau gorfodol a restrir yn Rheoliadau. Mae'r niferoedd sydd wedi'u cofrestru yn y sector gwaith ieuenctid wedi bod yn weddol sefydlog ers 2018.
Fel y categorïau cofrestru eraill, mae gweithwyr y sector gwaith ieuenctid yn fenywaidd yn bennaf gan roi cyfrif am 67.2% o weithwyr ieuenctid a 66.1% o weithwyr cymorth ieuenctid.
Mae proffil oedran gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid yn gytbwys, gyda 24.2% a 21.6% yn y drefn honno yn 50 oed ac yn hŷn.
Mae 3.1% o weithwyr ieuenctid ac 2.4% o weithwyr cymorth ieuenctid wedi nodi mai Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig yw eu hethnigrwydd a 67.9% a 68.5% yn y drefn honno wedi nodi eu bod yn Wyn. (27.7% a 27.0% yn anhysbys).
Mae 44.3% a 49.7% yn y drefn honno wedi nodi mai Cymry ydyn nhw o ran eu hunaniaeth genedlaethol, gyda 19.9% a 16.5% yn nodi mai Prydeinwyr ydyn nhw. (27.7% a 27.0% yn anhysbys).
Nododd 4.6% o weithwyr ieuenctid cymwysedig a 6.1% o weithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig fod ganddynt anabledd.
Gall 10.6% o weithwyr ieuenctid siarad Cymraeg, ac mae 7.4% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. (26.1% a 26.6% yn anhysbys).
Gall 16.3% o weithwyr cymorth ieuenctid siarad Cymraeg, ac mae 12.4% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. (27.3% a 27.4% yn anhysbys).
Crynodeb Ystadegau
Os na ydych yn gallu ffeindio’r hyn rydych yn chwilio amdano neu os oes gennych gwestiwn, e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Os ydych yn gofrestrai CGA, gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd. Gallwch hefyd gyrchu’ch cofnod ar gofrestr CGA drwy fewngofnodi i FyCGA.