CGA / EWC

About us banner
Mae arolwg cenedlaethol addysg bellach a dysgu yn seiliedig ar waith 2023 wedi cael ei ryddhau
Mae arolwg cenedlaethol addysg bellach a dysgu yn seiliedig ar waith 2023 wedi cael ei ryddhau

Yn arolwg gweithlu addysg genedlaethol 2021, codwyd baich gwaith fel problem gyson. Ers hynny, mae’r grŵp llywio baich gwaith cenedlaethol (Cyd-Undebau Llafur, ColegauCymru a Llywodraeth Cymru) wedi ymgymryd â gwaith i ymateb i’r pryderon hynny.

Erbyn hyn, mae’r grŵp am asesu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ac wedi gofyn i CGA ymgymryd â’r arolwg hwn i helpu mesur faint sydd wedi ei gyflawni.

Os ydych yn ymarferydd cofrestredig addysg bellach neu ddysgu yn seiliedig ar waith, neu’n staff cymorth busnes mewn colegau, gallwch gwblhau eich arolwg nawr.

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg yw dydd Gwener 31 Mawrth 2023.