CGA / EWC

About us banner
Gwobrwyo tri sefydliad gyda’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid
Gwobrwyo tri sefydliad gyda’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Gwasanaeth Chwarae ac Ieuenctid Wrecsam, ICE Cymru a Gwasanaeth Cefnogi Ieuenctid Sir Gâr yw'r sefydliadau diweddaraf i gael y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Yn dilyn asesiadau ddiwedd 2022 mae ICE Cymru wedi cael y marc ansawdd efydd, Gwasanaeth Chwarae ac Ieuenctid Wrecsam wedi cael yr arian, a Gwasanaeth Cefnogi Ieuenctid Sir Gâr yr aur.

Mae'r Marc Ansawdd (a weinyddir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)), yn wobr genedlaethol sy'n arddangos ardderchowgrwydd sefydliad. I gael achrediad, mae'n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.

Dywedodd Tomas Phillips, Rheolwr Academi ICE ar gyfer ICE Cymru "Mae cael y Marc Ansawdd yn fraint enfawr. Mae'n destament i'r gwaith ry'n ni'n ei wneud a'r tîm tu ôl iddo. Mae'r broses wedi bod yn un o addysg a ffocws. Ry'n ni nawr yn edrych ymlaen at barhau i wella ein gwaith a'r hyn ry'n ni'n ei gynnig."

Dywedodd Andrew Borsden, Swyddog Datblygu'r Marc Ansawdd yn CGA "Trwy gydol eu hasesiadau, arddangosodd pob tîm eu hymrwymiad i gyflawni gwaith ieuenctid o ansawdd uchel. Roedd ysgogiad a brwdfrydedd y staff yn bleser i'w weld - llongyfarchiadau i bawb."

Yn yr wythnosau nesaf mae Gwasanaethau Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot yn cael eu hasesu am eu cais am yr arian, a Princes Trust Cymru, a Plant y Cymoedd.

I gael mwy o wybodaeth ar y Marc Ansawdd, gan gynnwys manylion ar sut gall eich sefydliad chi wneud cais i gael eich achredu, ewch i wefan CGA.