CGA / EWC

About us banner
Cyhoeddi canllaw newydd i helpu i fynd i’r afael â hiliaeth ym maes addysg
Cyhoeddi canllaw newydd i helpu i fynd i’r afael â hiliaeth ym maes addysg

Heddiw mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Ganllaw Arfer Da diweddaraf ynghylch mynd i’r afael â hiliaeth.

Cafodd y canllaw, sydd wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a BAMEed Wales, ei lansio i gyd-daro â digwyddiad ar y cyd gan CGA, Addysgwyr Cymru a BAMEed, ‘Symud o ymarfer nad yw’n hiliol i ymarfer gwrth-hiliol: hyrwyddo cydraddoldeb hiliol mewn addysg’.

Nod y ddogfen hon, y ddiweddaraf mewn cyfres o ganllawiau ymarfer da, yw cynorthwyo’r holl gofrestreion i ddeall sut y gall eu hymddygiadau a’u hymarfer helpu i greu amgylcheddau cynhwysol a chroesawgar i ddysgwyr a phobl ifanc.

Mae'n nodi’n glir y camau y gellir eu cymryd wrth ganfod a mynd i’r afael â materion hiliaeth yn ogystal â sut i hyrwyddo cydraddoldeb – i gyd yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yng Nghod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA.

Dywedodd Kate Mills, Uwch Weithiwr Addysg yn Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

“Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn croesawu’r Canllaw Ymarfer Da hwn gan CGA. Mae hiliaeth yn rhemp ledled y gymdeithas, gan gynnwys yn ein hysgolion, ac mae adnoddau fel hwn a all gynorthwyo addysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu hymarfer gwrth-hiliol eu hunain, er mwyn creu mannau cynnes a chroesawgar lle gall pob plentyn, person ifanc a chydweithiwr ffynnu, yn hollbwysig.

“Cyfrifoldeb pawb yw gwrth-hiliaeth ac edrychwn ymlaen at weld hyn yn datblygu ymhellach byth ledled system addysg Cymru.”

Dywedodd Cadeirydd BAMEed Wales, Dr Susan Davis

“Rydym ni’n falch o gymeradwyo’r canllaw hwn gan CGA i fynd i’r afael â hiliaeth. Mae'n hanfodol i fannau dysgu gynnig profiad meithringar a chadarnhaol i blant a phobl ifanc yng Nghymru – a ddylai allu dysgu mewn amgylchedd sy’n eu dathlu nhw a’u cyfraniadau unigryw, waeth beth fo lliw eu croen neu eu credoau crefyddol.”

Wrth gyhoeddi’r canllaw, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewelyn

“Mae gan Gymru gymdeithas amlddiwylliannol sefydledig lle mae unigolion o gefndiroedd amrywiol yn dysgu gyda’i gilydd ac oddi wrth ei gilydd. Fel rheoleiddiwr, mae dyletswydd ar CGA i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu addysg.

“Rydym ni wedi datblygu’r canllaw hwn i gynorthwyo ein cofrestreion i ddeall a mynd i’r afael â materion hiliaeth yn unol â’u cyfrifoldebau o dan y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.”

I weld y canllaw, ewch i'n tudalennau Canllawiau Ymarfer Da.