CGA / EWC

About us banner
CGA yn recriwtio aelodau lleyg ar gyfer paneli Priodoldeb i Ymarfer
CGA yn recriwtio aelodau lleyg ar gyfer paneli Priodoldeb i Ymarfer

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn recriwtio aelodau lleyg panel ar gyfer ein gwaith achos priodoldeb i ymarfer. Os ydych yn chwilio am rôl sy'n eich herio a'ch gwobrwyo, sy'n rhoi cyfle gwych ar gyfer datblygiad personol, yna hoffai CGA glywed gennych.

Mae gan CGA rôl bwysig i'w chwarae yn cynnal safonau proffesiynol ymddygiad ac ymarfer, a diogelu buddion dysgwyr, rheini/gwarcheidwaid a'r cyhoedd. Rhan o'r rôl honno yw ymchwilio ac ystyried unrhyw achosion allai gwestiynu priodoldeb i ymarfer cofrestreion.

Mae aelodau’r panel yn hanfodol i'r gwaith yma, gan roi mewnbwn proffesiynol hanfodol i'r rhan yma o gyfrifoldeb CGA. Mae CGA yn chwilio am aelodau lleyg ychwanegol i ymuno gyda'r panelau.

Os oes diddordeb gyda chi yn cyfrannu at y gwaith pwysig yma, lawr lwythwch y pecyn ymgeisio, a gwnewch gais erbyn canol dydd ar 31 Mawrth 2023.