CGA / EWC

About us banner
CGA yn cyhoeddi canlyniadau SAC 2021-22
CGA yn cyhoeddi canlyniadau SAC 2021-22

Heddiw (19 Awst 2022), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ffigurau ar gyfer yr athrawon dan hyfforddiant a enillodd Statws Athro Cymwysedig (SAC) yng Nghymru y mis Awst hwn.

Mae’r ffigurau’n dangos bod cyfanswm o 1,236 o unigolion wedi cymhwyso fel athrawon yn 2021-22, naill ai ar ôl cwrs addysg gychwynnol athrawon amser llawn yng Nghymru a gyflwynwyd gan bartneriaeth prifysgol neu, am y tro cyntaf, trwy raglen ran-amser neu raglen â chyflog a gyflwynwyd gan Bartneriaeth y Brifysgol Agored.

Dyma rai ffeithiau a ffigurau allweddol am athrawon newydd gymhwyso eleni:

Rhaglenni amser llawn

  • Cymhwysodd 1,131 o hyfforddeion yn athrawon newydd trwy raglenni addysg gychwynnol athrawon amser llawn
  • Cafodd 55.4% ohonynt hyfforddiant cynradd
  • Cafodd 44.6% ohonynt hyfforddiant uwchradd
  • Roedd 72.6% yn fenywaidd
  • Roedd 86.0% o dan 30 oed

Rhaglenni rhan-amser neu raglenni â chyflog

  • Enillodd 105 o hyfforddeion statws athro cymwysedig trwy raglenni addysg gychwynnol athrawon rhan-amser neu â chyflog
  • Cafodd 72.4% ohonynt hyfforddiant cynradd
  • Cafodd 27.6% ohonynt hyfforddiant uwchradd
  • Roedd 81.0% yn fenywaidd
  • Roedd 37.2% o dan 30 oed

Mae’r holl raglenni addysg gychwynnol athrawon sydd ar waith yng Nghymru yn cael eu hachredu gan CGA.

Mae’r canlyniadau llawn ar gael i’w darllen trwy wefan CGA.