I nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd y Byd (15 Mai), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn amlygu'r ffordd y mae'n gweithio i wneud eu gwasanaethau'n fwy hygyrch.
Fel y rheoleiddir annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, mae CGA wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cynhwysol, hygyrch ar gyfer ei gofrestreion a'i randdeiliaid.
Ym mis Ebrill 2025, fe wnaeth CGA ddiweddaru eu Cynllun Strategaeth Cydraddoldeb 2024-28 sy'n gosod ei ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Fel rhan o hyn, mae CGA yn ceisio gwella hygyrchedd eu gwasanaethau, gan alinio gydag arfer gorau a gofynion cyfreithiol.
Ffocws allweddol o hyn yw tynnu rhwystrau i gymryd rhan yn eu digwyddiadau a'u hadnoddau. Mae CGA yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau, y mae'n eu cynnal yn rhithiol i dynnu rhwystrau corfforol. Wrth gofrestru, gall unigolion nodi unrhyw anghenion hygyrchedd sydd ganddynt, fel bod y tîm yn gallu gwneud eu gorau i wneud addasiadau rhesymol. Mae recordiadau o ddigwyddiadau yn cael eu rhannu ar-lein, ac ar gael ar alw, unrhyw bryd, gyda'r opsiwn o isdeitlau Cymraeg neu Saesneg.
Mae CGA hefyd wedi dechrau creu rhai o'u fideos corfforaethol gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae'r rheoleiddir yn bwriadu parhau â'r ymdriniaeth yma, gan sicrhau bod ei ddogfennau craidd, a fideos ar gael mewn fformat BSL.
Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi, Bethan Holliday-Stacey "Rydym am sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at ein gwasanaethau a'n hadnoddau. Mae hyn yn cynnwys gwrando ar gofrestreion ac addasu, lle gallwn, i fodloni eu hanghenion amrywiol."
Yn 2023 fe wnaeth CGA ail-ddylunio’r wefan yn gyfan gwbl, gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y we, fersiwn 2.2 safon AA. I gynnig cymorth pellach, mae gan y safle far offer ReachDeck, sy'n cynnig nifer o declynnau hygyrchedd i helpu defnyddwyr i lywio'r wefan.
Parhaodd Bethan, "Rydym wastad yn awyddus i glywed sut gall y gwasanaethau ry'n ni'n eu darparu gael eu gwella a'u gwneud yn fwy hygyrch. Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw adborth."
Gallwch ddarllen Cynllun Strategaeth Cydraddoldeb CGA yn llawn, a rhoi adborth ar y gwasanaethau a gynigir gan CGA, drwy fynd i'r wefan.