CGA / EWC

About us banner
Amlinelliad o gyflawniadau allweddol CGA yn 2021-22
Amlinelliad o gyflawniadau allweddol CGA yn 2021-22

Heddiw, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022.

Mae’r ddogfen, a osodwyd gerbron y Senedd, yn manylu ar y gwaith a wnaed gan CGA trwy gydol blwyddyn ariannol 2021-22 ac yn amlinellu ei gyflawniadau allweddol.

Er gwaethaf effaith barhaus pandemig COVID-19, parhaodd CGA i weithredu yn ôl safon uchel, gan gyflawni ei rôl fel rheoleiddiwr annibynnol yn diogelu dysgwyr er budd rhieni/gwarcheidwaid a’r cyhoedd.

Mae uchafbwyntiau yn yr adroddiad eleni yn cynnwys:

  • y nifer uchaf o geisiadau i gofrestru yn ein hanes ac, yn ei dro, cynnydd yn y nifer sydd wedi cofrestru gyda ni, yn enwedig ymhlith staff cymorth dysgu
  • arwain yr Arolwg Cenedlaethol o’r Gweithlu Addysg yng Nghymru, gan ddenu dros 10,000 o ymatebion
  • lansio Addysgwyr Cymru, sef platfform cenedlaethol newydd i annog recriwtio pobl i fyd addysg yng Nghymru
  • cael y farn archwilio uchaf, sef sicrwydd sylweddol a dim argymhellion ar gyfer pob un o’r pum adolygiad archwilio mewnol a gwblhawyd yn 2021-22

Mae dau adroddiad pellach a gyhoeddir heddiw yn ategu Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22, sef Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2021-22 ac Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2021-22.

2021-22 yn ôl niferoedd

  • 82,159 o ymarferwyr addysg wedi’u cofrestru
  • 14,964 o geisiadau newydd am gofrestru wedi’u prosesu
  • 1,407 o dystysgrifau Statws Athro Cymwysedig (SAC) wedi’u rhoi
  • 4,000 o athrawon newydd gymhwyso (ANG) a’u mentoriaid wedi’u cynorthwyo yn rhan o’r rhaglen Sefydlu statudol
  • 128,000 o wiriadau ar-lein wedi’u gwneud gan gyflogwyr a’r cyhoedd
  • 269 o achosion Priodoldeb i Ymarfer wedi’u cwblhau
  • Dros 14,000 o gopïau o’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi’u lawrlwytho
  • Dros 450 o gyflwyniadau a sesiynau cymorth wedi’u darparu i fyfyrwyr, cofrestreion, cyflogwyr a rhanddeiliaid
  • 35,000 o ddefnyddwyr cofrestredig y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22 CGA

  Crynodeb o gyflawniadau allweddol 2021-22 CGA