Calum David Williams – 31 Ionawr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 26 i 28 Tachwedd 2024 a 31 Ionawr 2025, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Calum David Williams.
Canfu’r Pwyllgor fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu yn Ysgol Bryn Castell, fod Mr Williams, yn ystod neu oddeutu mis Medi 2023 a mis Tachwedd 2023:
- yn hwyr i’r gwaith ar fwy nag un achlysur
- wedi defnyddio iaith amhriodol wrth siarad â disgybl a/neu siarad am ddisgybl
- wedi galw disgybl arall yn “bathetig” a/neu’n “gwynfanllyd”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Williams fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, am gyfnod o 2 flynedd (o 31 Ionawr 2025 tan 31 Ionawr 2027).
Fel y cyfryw, bydd Mr Williams yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru yn ystod cyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Williams hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.