Aled Medwyn Jones - 1 Mai 2025
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 23 Ebrill - 1 Mai 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach, Aled Medwyn Jones.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Mr Jones:
- rhwng Awst 2019 a Mawrth 2020, wedi cofnodi arsylwadau o ymweliadau safle ar gyfer 7 prentis NVQ ar Learning Assist , ac na wnaeth un neu fwy o'r ymweliadau ddigwydd
- wedi gwneud un neu fwy o hawliadau treuliau ar Proactis pan na wnaeth yr ymweliadau cyfatebol ddigwydd, ar ddyddiadau rhwng Awst 2019 a Hydref 2019
Canfu'r pwyllgor bod yr ymddygiad a brofwyd yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Jones oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro addysg bellach, gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Jones yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Jones wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 1 Mai 2027, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Jones yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.