Rosie Garfield – 20 Mawrth 2025
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 20 Mawrth 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi eu profi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Rosie Garfield.
Canfu'r Pwyllgor bod Ms Garfield:
- ar neu o gwmpas 25 Ionawr 2024, wedi cyflwyno cais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol, a nododd yn y datganiad nad oedd ganddynt unrhyw euogfarnau, pan nad oedd hyn yn gywir.
Ar ôl gwneud y canfyddiad yma, penderfynodd y Pwyllgor hefyd bod yr ymddygiad yn anonest, heb hygrededd, ac yn golygu ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
- ar 8 Rhagfyr 2023, wedi cael euogfarn o yrru cerbyd modur gyda gormod o alcohol ar 21 Tachwedd 2023, ar ôl yfed cymaint o alcohol bod y gyfran o alcohol ar eu hanadl yn 40 microgram o alcohol ym mhob 100 mililitr o anadl, sydd yn fwy na'r terfyn rhagnodedig, ac yn erbyn adran 5(1)(a) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. Rhoddwyd dedfryd i Ms Garfield o waharddiad gyrru am 14 mis, dirwy o £80, a'u gorchymyn i dalu costau o £85 a gordal dioddefwr o £32.
Ar ôl gwneud y canfyddiad yma, penderfynodd y Pwyllgor hefyd bod yr ymddygiad yn drosedd berthnasol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Ms Garfield fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 12 mis (rhwng 20 Mawrth 2025 a 20 Mawrth 2026). O'r herwydd ni fydd Ms Garfield yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Ms Garfield yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.