CGA / EWC

About us banner
Yr Urdd yn ennill gwobrau arian ac aur yn ei chanfed flwyddyn
Yr Urdd yn ennill gwobrau arian ac aur yn ei chanfed flwyddyn

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cael ei chydnabod am ansawdd ei darpariaeth yr wythnos hon wrth i’r sefydliad ieuenctid ennill y Marciau Ansawdd Arian ac Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (a weinyddir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn wobr genedlaethol sy’n dangos rhagoriaeth sefydliad. Er mwyn derbyn yr achrediad, mae’n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn set o safonau ansawdd a chael asesiad allanol llwyddiannus.

Dangosodd yr Urdd, sy’n dathlu ei chanmlwyddiant, i aseswyr y marc ansawdd fod ei gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan weithlu profiadol a chymwysedig sy’n dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn defnyddio cysylltiadau cryf â phartneriaid, yn defnyddio adnoddau’n greadigol, ac yn cynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.

Dywedodd Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis: “Ar ran yr Urdd, hoffwn ddiolch i CGA a Llywodraeth Cymru am yr anrhydedd fawr o ddyfarnu’r Marciau Ansawdd Arian ac Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru i’r sefydliad. Mae’r wobr yn brawf o waith caled ac ymroddiad ein staff, gwirfoddolwyr ac aelodau. Mae’r cyflawniad hefyd yn adlewyrchu ansawdd darpariaeth gwaith ieuenctid yr Urdd yn Gymraeg ledled Cymru gyfan.

“Mae’r Urdd yn adlewyrchu’r Gymru newydd, gyda chyfleoedd i bobl o bob cefndir diwylliannol a chymdeithasol, mewn Cymru sy’n cynnwys siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Ers i’r Urdd gael ei sefydlu ym 1922, rydym yn falch o fod wedi cynnig canrif o wasanaeth i 4 miliwn o blant a phobl ifanc ar draws y wlad.”

Mae Urdd Gobaith Cymru yn Sefydliad Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol â mwy na 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed. Ers 1922, mae wedi darparu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru i’w galluogi i wneud cyfraniadau cadarnhaol at eu cymunedau.

Dywedodd Andrew Borsden, Swyddog Datblygu ar gyfer y Marc Ansawdd yn CGA: “Mae’r Urdd wedi cyflawni’r Marc Ansawdd Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn ei chanfed flwyddyn. Mae’r ddau gyflawniad hyn yn dangos nid yn unig gryfder y sefydliad, ond hefyd ei fod yn parhau i ddarparu gwaith ieuenctid o ansawdd uchel.

“Roedd dyfnder y gweithgareddau a gynigir a brwdfrydedd y staff wedi gwneud argraff fawr ar ein haseswyr. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n gysylltiedig.”

I gael mwy o wybodaeth am y Marc Ansawdd, gan gynnwys manylion sut gall eich sefydliad wneud cais i gael ei achredu, ewch i wefan CGA.