CGA / EWC

About us banner
Sefydliad ieuenctid yng Nghastell-nedd Port Talbot yn derbyn Marc Ansawdd Cenedlaethol
Sefydliad ieuenctid yng Nghastell-nedd Port Talbot yn derbyn Marc Ansawdd Cenedlaethol

Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot yw’r sefydliad diweddaraf i dderbyn y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, gan dderbyn eu gwobr Arian mewn digwyddiad cyflwyno arbennig yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, a weinyddir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn wobr genedlaethol sy’n cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella yn narpariaeth, arferion, a pherfformiad sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ieuenctid. Er mwyn derbyn yr achrediad, rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn set o safonau ansawdd a llwyddo mewn asesiad allanol.

Yn eu hasesiad, dangosodd Gwasanaethau Ieuenctid CNPT i aseswyr sut roedd eu gwasanaeth yn cydnabod ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn cynllunio’u gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl ifanc, a sut roedd yn cynnwys pobl ifanc mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant: “Rwyf wrth fy modd fod y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru wedi cael ei ddyfarnu i’n Gwasanaeth Ieuenctid.

“Mae’r gydnabyddiaeth fawreddog hon yn brawf o’u hymroddiad yn cefnogi pobl ifanc yn ein cymuned, a hoffwn longyfarch pob un o’r staff yn y gwasanaeth am eu hymdrechion. Mae eu hymrwymiad i ddarparu gweithgareddau a gwasanaethau gwaith ieuenctid o ansawdd uchel heb ei ail, ac rwy’n falch o weld eu gwaith caled a’u cyflawniadau’n cael eu cydnabod fel hyn."

Mae Gwasanaeth Ieuenctid CNPT yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 mlwydd oed ar hyd a lled ardal Castell-nedd Port Talbot. Ei nod yw rhoi profiadau diddorol a heriol i bobl ifanc, yn ogystal â chynnig cymorth a chyngor ar amrywiaeth o faterion, o ofalwyr ifanc, i LHDTC.

Dywedodd asesydd y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, Catrin James, “Gwnaeth ansawdd y dystiolaeth yr oedd y tîm wedi’i pharatoi ar gyfer ein hymweliad argraff fawr arnon ni.  

“Roedd ansawdd y ddarpariaeth ar draws yr amrywiaeth eang o glybiau ieuenctid yn gyson – a gafodd ei ddangos yn glir gan y lefelau uchel o bresenoldeb, a’r amrywiaeth o weithgareddau sy’n cael eu cynnig ym mhob clwb. Roedden ni hefyd yn falch o weld ymagwedd tîm gydlynol y gwasanaethau at gynorthwyo pobl ifanc â’u hanghenion cyflogaeth, tai, a lles.

“Diolch i’r tîm cyfan, a llongyfarchiadau ar y wobr hon, sy’n gwbl haeddiannol.”

I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion am ba sefydliadau sy’n dal Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, a sut gall eich sefydliad wneud cais i gael ei achredu, ewch i wefan CGA.