CGA / EWC

About us banner
Mae cofrestru ar agor ar gyfer Uwchgynhadledd Addysg y Byd 2023
Mae cofrestru ar agor ar gyfer Uwchgynhadledd Addysg y Byd 2023

Mae Uwchgynhadledd Addysg y Byd (WES) yn ôl ar gyfer 2023.

Mae WES, fydd yn cael ei gynnal rhwng 20 a 23 Mawrth 2023, yn cysylltu addysgwyr y byd gyda arbenigedd, ymarfer a'r ymchwil anhygoel diweddaraf. Mae digwyddiad eleni'n cynnwys dros 400 o siaradwyr o safon fyd-eang gan gynnwys  Alma Harris, llywydd digwyddiad Siarad yn Broffesiynol 2023 CGA, a'r prif siaradwr, yr Athro Michael Fullan.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn falch o allu cadarnhau, ynghyd â Llywodraeth Cymru, eu bod yn cynnig cyfle unigryw i gofrestreion ysgol ac Addysg Bellach (AB), ac i lywodraethwyr am y tro cyntaf, i fynychu'r digwyddiad arloesol ym myd addysg, am ddim.

Bydd gan y rheiny sydd methu mynd i'r uwchgynhadledd ar y dyddiadau, neu sydd a, barhau i fyfyrio, meddwl a defnyddio beth maent wedi ei glywed, flwyddyn gron i gael mynediad at gynnwys y digwyddiad drwy Summit Central. Bydd hefyd ganddynt fynediad at gynllunydd dysgu er mwyn iddynt allu alinio'r sesiynau'n hawdd i flaenoriaethau eu hysgol.

Mae llefydd yn gyfyngedig. Bydd unigolion yn gallu cofrestru ddefnyddio tudalen gofrestru arbennig.

Mae mwy o wybodaeth ar Uwchgynhadledd Addysg y Byd ar eu gwefan.